Confessions of a Dark Room

Mae Volcano yn cyflwyno

Confessions of a Dark Room

Confessions of a Dark Room

Gallwch weld popeth yn y tywyllwch… Mae sioe newydd Volcano yn nodi dechrau’r gaeaf, ac yn croesawu’r tywyllwch sy’n ein cofleidio. Rydym yn symud oddi wrth ddyddiau hir a heulog yr Haf at nosweithiau tywyll yr Hydref a misoedd hir y Gaeaf sy’n ein disgwyl. Sut allwn ni uniaethu â dyddiau du bywyd pan ymddengys ein bod wedi gwirioni’n llwyr â neon, goleuni a gweld popeth sydd i’w weld? Mae fel petawn ond ag un synnwyr. Does ryfedd ein bod yn llawn dicter, gorbryder a thrachwant. Dewch i gwrdd â chwmni bach o actorion sydd wedi’u cyhuddo o sawl methiant – twyll treth, diletantiaeth, ac anniweirdeb, ymysg mwy. Mae’r actorion hyn yn perfformio eu testunau gyda’r grefft a’r sylw i fanylder sy’n ddisgwyliedig o dalent arbennig. Maent yn dyfeisio stori noiraidd o ormodedd yn y golau gwan. Maent yn talu teyrnged i Yukio Mishima ac Ingmar Bergman. Bydd yn draed moch doniol a hardd, a byddwn yn breuddwydio am diroedd eraill yng nghysgodion noson dywyll a llonydd. Mae Confessions of a Dark Room yn parhau â’r bartneriaeth rhwng y cyfarwyddwr, Paul Davies, a’r dylunydd, Bourdon Brindille, sydd wedi cydweithio i greu Sincere as Objects a The Dread Zone. Mae wedi’i hysbrydoli gan ffilmiau Ingmar Bergman a llyfrau gan Junichiro Tanizaki, Yukio Mishima ac E.T.A. Hoffman. Cyfarwyddwr: PAUL DAVIES Dylunydd: BOURDON BRINDILLE Cyfarwyddwr Symudiad: CATHERINE BENNETT Cast: PEAR CHIRAVARA / CHRISTOPHER ELSON / THOMAS LEONARD ARCHEBWCH NAWR!  
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education