SOMETHING IS ROTTEN IN THIS AGE OF HOPE*
Cynhyrchiad newydd Volcano ar gyfer tymor yr hydref 2019 yw addasiad gwaradwyddus Heiner Müller o Hamlet gan Shakespeare, sy’n fframio trasiedi ddomestig Hamlet o fewn cynllwynion gwleidyddol Ewrop fin nos.
Nid perfformiad cyffredin mo HAMLETMACHINE gan Volcano. Gan amlygu’n llawn cartref ceudyllog y cwmni mewn hen archfarchnad ar y Stryd Fawr, rydym yn eich gwahodd chi ar daith ryfeddol, o amgueddfa chwilfrydedd erchyll i ardd o hyfrydwch; trwy goridorau grym a phleser i ddwnsiwn malurion. Gan gymysgu perfformiad byw ac arddangosfa ryfedd gydag elfennau rhyngweithiol a synhwyraidd, mae HAMLETMACHINE yn brofiad syfrdanol, doniol a hyfryd o annifyr i gynulleidfaoedd.