Y pwynt cychwynnol ar gyfer Sincere as Objects, sioe newydd gan Volcano, yw gwrthdroi’r berthynas arferol rhwng y syniad (neu destun) a’r dyluniad. Gan amlaf, mae’r dyluniad yn dilyn y testun a ddefnyddir mewn perfformiad.Er enghraifft, os ydym yn perfformio Macbeth, bydd y dylunwyr yn creu gwaun neu gastell, neu efallai dim ond tywyllwch.
Ond beth fyddai dylunwyr yn ei wneud heb y testunau neu syniadau sanctaidd hyn? Beth fyddai’n debygol o ddigwydd petai perfformiad yn cael ei arwain gan ddyluniad?
Mae Sincere as Objects yn cychwyn o’r pwynt hwn – o chwith a thu ôl ‘mlaen.
Wedi ei hysbrydoli gan Hiroshima Mon Amour Alain Resnais a gwaith Alan Garner, mae’r darn yn daith drwy ddryslwyn o atgofion, breuddwydion a chyfleoedd a gollwyd.
Mae Sincere as Objects yn berfformiad ar y cyd rhwng Volcano a’r artist a adnabyddir fel Bourdon Brindille. Mae’r dyluniad yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd, yn Theatr Volcano yn Abertawe. Bydd y sioe yn cael ei dangos am y tro cyntaf ddiwedd mis Mai, gyda pherfformiadau’n parhau tan ganol Mehefin.