THE SHAPE OF THINGS TO COME

Comisiynau Llawrydd 2023

The Shape of Things to Come

GALWAD AM GEISIADAU!

Mae Volcano yn bwriadu comisiynu chwe pherfformiwr i wneud perfformiadau byr unigol (tua 30 munud) yn un o’r mannau yn ein lleoliad yn Stryd Fawr Abertawe. Mae’r cyfle hwn yn dilyn cyfres hynod lwyddiannus comisiwn 2022, Solo Duets for the Future. Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig. Rydym yn arbennig o awyddus i annog perfformwyr sy’n ymgysylltu â’r dyfodol, pwnc a dull perfformio sy’n ymwneud â’r hyn sydd i ddod neu “ddim eto”.

Hoffem i’r gwaith a’r ceisiadau fod yn arbrofol, ond ni ddylai hynny wahardd hiwmor na gwahodd hunanfoddhad – meddyliwch am 7:84 ond gyda fframio cyfoes neu safbwynt arall a allai wneud synnwyr newydd yn y presennol. Rhaid i theatr ar gyfer yfory fod yn fentrus ac yn gyfranogol; gall hefyd fod yn chwareus ac yn wleidyddol. Mae’n well os nad yw’n hen syniad sydd wedi hel llwch mewn drôr neu sydd wedi cael ei ystyried yn rhywle arall o’r blaen. Mae’n well ei fod yn anarferol ac yn gyffrous, yn fyw gyda’r holl anghysonderau sy’n peri anawsterau i ni yn unigol ac ar y cyd ar hyn o bryd.

Os yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr, gwnewch gais. Os nad yw’n gwneud digon o synnwyr, cysylltwch â ni i ymholi.

 
 
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education