Mae Volcano yn teimlo’n angerddol am ddatblygu creadigrwydd ymhlith ein pobl ifanc. Nod Volcano yw rhoi’r adnoddau a’r sgiliau i berfformwyr ifanc o bob cefndir allu meddwl a symud drostynt eu hunain yn hyderus a chreu eu gwaith eu hunain. Rydym yn herio pobl ifanc gyda thasgau byrfyfyrio sy’n gofyn cyfranogiad ymarferol, dychmygol.
Hoffem adnabod, meithrin ac ysbrydoli crewyr theatr y presennol a’r genhedlaeth nesaf. Yn uchelgeisiol, hoffem i’r bobl ifanc hyn ein helpu ni i ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl am greadigrwydd a pherfformio a’u hymarfer. Credwn y bydd hyn yn cael pob math o ganlyniadau cadarnhaol (rhai bwriadol ac anfwriadol) – o hyder i gyfranogiad i gyflogaeth.
Rydym yn gweithio gyda phlant o naw oed a hŷn, ac mae gennym ddau grŵp rheolaidd – The Mighty New i blant a Chwmni Ieuenctid Volcano i unigolion yn eu harddegau ac oedolion ifanc.