
The Shape of Things to Come 2025
"Yr Ystafell"
GALWAD AM GEISIADAU
31 Ionawr 2025
Mae Volcano yn bwriadu unwaith eto comisiynu pum pherfformiwr i wneud perfformiadau byr unigol (tua 30 munud) yn ein lleoliad yn Stryd Fawr Abertawe ym mis Ebrill a mis Mai. Dyma bedwaredd flwyddyn y gyfres gomisiwn llawrydd hon, a ddechreuodd yn 2022 fel Solo Duets for the Future. Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig.
Byddwn yn newid ychydig ar y brîff eleni – yn hytrach na gofyn i chi ddewis o ystod eang o ardaloedd perfformio, byddwn yn cyflwyno ychydig o gyfyngiadau ffurfiol (neu “rhwystrau” – meddyliwch am Lars Von Trier / Jørgen Leth, ond yn llai creulon a heriol).
Mae’n rhaid i’ch perfformiad ddefnyddio’r Ystafell.
Bydd Yr Ystafell yn set ddiaddurn wedi ei hadeiladu ar y llwyfan, gyda phedair wal ac amrywiaeth o ffenestri. Bydd yn mesur tua 4m x 4m. Bydd gan yr ystafell sawl pwynt mynediad. Mae’n bosib addasu’r ystafell i gyd-fynd â’ch syniad perfformiad, gan ddefnyddio adnoddau set gwahanol, paentio, dewisiadau goleuo, ac amrywiaeth o osodiadau cynulleidfa. Byddwch yn cael dewis o ddetholiad o wrthrychau a dodrefn.
Byddwn yn chwilio am bum darn sy’n defnyddio’r set mewn ffyrdd gwahanol gan ddefnyddio eich dychymyg. Mae croeso i chi seilio’r perfformiad ar unrhyw beth o’ch dewis, ond (yr un fath â thymhorau blaenorol) byddwn yn chwilio am waith sy’n agored yn hytrach na’n fewnol, sy’n cyfathrebu â chynulleidfaoedd, ac sy’n edrych tuag at y dyfodol yn hytrach na datglymu’r gorffennol.
Cewch gyflwyno syniad unrhyw bryd o 01 Chwefror 2025 ymlaen. Rydym yn adolygu a llunio rhestr fer wrth i geisiadau gael eu cyflwyno, felly cyflwynwch eich cais cyn gynted ag yr ydych yn barod. Y dyddiad cau anffurfiol yw 08 Mawrth. Fodd bynnag, efallai bydd ceisiadau ar agor tu hwnt i’r dyddiad cau yn ôl ein disgresiwn.
DARLLENWCH HWN CYN GWNEUD CAIS
GWNEWCH GAIS YMA
Isod: Perfformiadau o The Shape of Things to Come 2024 gan Akeim Toussaint Buck, Christopher Elson, Elin Phillips, Luke Hereford, Catherine Alexander and Eric Ngalle Charles.