ARDDANGOSIAD CYFREDOL

Mae Arddangosiad Leonard Goldsworthy, Mood Swings, yn agored i’r cyhoedd ar hyn o bryd yn ein Horiel Glan Môr o 15 Chwefror hyd at 27 Mawrth.

 

“Mae arddull eclectig i’m gwaith, i’m techneg a’m pwnc. Ymateb emosiynol digymell i bobl, lleoedd a digwyddiadau yw fy ngwaith gan amlaf. Mae llawer ohono’n alegorïaidd, eraill yn fyfyrdod neu’n sylw am y ffordd yr ydym yn byw ein bywyd ac am faterion cymdeithasol cyfredol. Rwyf hefyd yn mwynhau’r pynciau mwy traddodiadol ac yn archwilio’r rhain gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r arddangosiad yn un adolygol i raddau, gydag agweddau yn dyddio o’r 1960au hwyr hyd at heddiw.”

 

– Leonard Goldsworthy

Cwmni Ieuenctid Volcano

Mae Cwmni Ieuenctid Volcano yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc archwilio eu syniadau, ysbrydoli’r naill a’r llall, a chanfod sgiliau newydd.

Featured-Image_SBW

Cyfiawnder Hinsawdd

Dysgwch fwy am sut mae Volcano yn ymdrechu i sicrhau gweithredu cymunedol i oresgyn newid hinsawdd a gwarchod natur.

Llogi Lleoliad

Yn ogystal â bod wrth wraidd ein cwmni cynhyrchu, mae ein lleoliad yn ganolfan gelfyddydol annibynnol ar gyfer y ddinas, yn cynnal perfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau gan artistiaid a chwmnïau gwadd a lleol.

Scroll to Top