Cwmni Ieuenctid Volcano
I oedrannau 15-21. Ymdrochwch eich hun yn dychmygu a byrfyfyrio, theatr gorfforol a drama gyfoes. Byddwch yn creu eich perfformiadau eich hun fel rhan o ensemble, gyda chefnogaeth a chyfarwyddyd gan arbenigwyr theatr profiadol, ac yn cael y cyfle i berfformio’n gyhoeddus.
Mae Cwmni Ieuenctid Volcano yn rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio eu syniadau, ysbrydoli’r naill a’r llall, a darganfod sgiliau newydd. Mae’r pwyslais ar alluogi’r cyfranogwyr i ddatgloi eu creadigedd drwy arbrofi gyda pherfformio a datblygu ymddiriedaeth a hyder (ynddynt eu hunain a’i gilydd) mewn amgylchedd proffesiynol cefnogol. Rydym yn herio pobl ifanc gyda thasgau byrfyfyrio sy’n gofyn cyfranogiad ymarferol, dychmygol. Nod Volcano yw rhoi’r adnoddau a’r sgiliau i berfformwyr ifanc allu meddwl a symud drostynt eu hunain yn hyderus a chreu eu gwaith eu hunain.
Caiff Cwmni Ieuenctid Volcano ei arwain gan Paul Davies, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Volcano, a Catherine Bennett, Coreograffydd a Chyfarwyddwr Symudiadau, yn Theatr Volcano ar Stryd Fawr Abertawe.
Bydd angen caniatâd gan riant/gwarcheidwad i unigolion dan 18 oed.
Ein nod yw cwmni sy’n cynrychioli amrywiaeth pobl ifanc de Cymru o ran ethnigrwydd, rhywedd, rhywioldeb, anabledd a chefndir economaidd-gymdeithasol. Rhowch wybod i ni os oes angen cymorth arnoch ar ddiwrnod y gweithdy neu os oes gennych anghenion mynediad.
Dechreuwyd Cwmni Ieuenctid Volcano yn 2016 ac mae’r cwmni wedi creu pedwar perfformiad gwreiddiol (The Thermidorians, WeReallyWantToWinButWeDontWantToTryTooHard, Ten Minutes Longer a Micropolis) ac wedi ymddangos yn Novemberfest, The Quadrant Abertawe, Dyddiau Dawns yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, GŵylGrai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Glan yr Afon Casnewydd, Gŵyl Genedlaethol Theatrau Ieuenctid yr Alban a Gwobrau Theatr Cymru. Mae Ten Minutes Longer yn benllanw prosiect mewn partneriaeth gyda Frantic Ignition.
Mae pobl ifanc o Gwmni Ieuenctid Volcano wedi mynd ymlaen i barhau â’u gyrfaoedd yn:
- Birmingham Conservatoire
- Bath Spa University
- Central School of Speech and Drama
- Rose Bruford
- Bristol Old Vic
- East 15
- Glasgow School of Art
- Liverpool Institute of Performing Arts
- Royal Welsh College of Music and Drama
Y gost yw £50 bob tymor.
Bwrsariaethau
Hoffem i’n holl gyfleoedd fod yn agored i unrhyw unigolyn ifanc sydd eisiau cymryd rhan, gan gynnwys pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Credwn fod ein gwaith yn well pan mae’n cynnwys pobl o bob cefndir a phrofiadau. Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i gael gwared ar unrhyw rwystrau, gan gynnwys rhwystrau ariannol, a all eich atal chi rhag cael mynediad at ein gwaith. Mae bwrsariaethau ar gael i dalu am gost y ffioedd ac mae ymgeisio amdanynt yn syml. Chewch chi fyth eich trin yn wahanol yng Nghwmni Ieuenctid Volcano oherwydd eich bod wedi gwneud cais neu wedi derbyn bwrsariaeth.