Gweithiwch gyda ni

CYFLEOEDD PRESENNOL YN VOLCANO

GWAHODDIAD I DENDRO: OFFER SAIN/GWELEDOL (Yn cau 28 Tachwedd)

Yng nghefn ein hadeilad mae ein ‘Theatr Bunker’ ac ardal sinema newydd sbon yr ydym yn bwriadu eu datblygu ymhellach gyda dangosiadau ffilm rheolaidd yn ogystal â pherfformiadau byw. Mae’r rhain yn ardaloedd aml-ddefnydd sydd hefyd yn cynnal ymarferion, sgyrsiau, cyfarfodydd, gweithdai creadigol, a gweithgareddau cymunedol ad hoc ac addysgol. Mae’r offer AV presennol wedi dyddio ac nid yw bellach yn addas i’r diben. Rydym wedi sicrhau cyllid cyfalaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac rydym yn awyddus i uwchraddio’r offer sain a fideo.

Rydym wedi nodi ein gofynion ac ar ôl derbyn mynegiad o ddiddordeb, byddwn yn darparu rhestr offer fanwl fel sail i dendr. Rydym hefyd yn agored i argymhellion pellach ar newidiadau priodol y byddech efallai’n dymuno eu hawgrymu. Gallwn hefyd ddarparu cynllun o’r adeilad a delweddau o’r ardaloedd dan sylw. Mae ymweliadau safle’n bosibl drwy apwyntiad.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 28ain Tachwedd. Hanner dydd.

MWY O WYBODAETH

*********************************

Mae hoff brosiect llythrennedd plant unigryw Abertawe yn recriwtio ar gyfer dwy rôl newydd!

Cydlynydd Prosiect (Clwb Sadwrn)

Dyddiad dechrau: Ionawr 2026
Termau: Contract llawrydd tymor penodol yn cynnwys 38 diwrnod y flwyddyn, rhan amser.
Oriau: 10am – 1pm. Dydd Sadwrn
Ffi: £33.00 yr awr.
Lleoliad: Mae Storyopolis wedi’i leoli yn Theatr Volcano ar Stryd Fawr Abertawe.

Amlinelliad o’r rôl
Gan gydweithredu’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Prosiect, Tim Barcup a Laura Webb, a’n hwylusydd
Creadigol, eich rôl fydd arwain ar weinyddu a chydlynu rhaglen eang Storyopolis o weithgareddau’n
seiliedig ar lythrennedd sy’n cael eu darparu yn ein Clwb Dydd Sadwrn. Bydd gennych gyfle i lywio
cyfeiriad y prosiect arloesol hwn fel ei fod yn parhau i roi budd i blant a phobl ifanc Abertawe sydd
fwyaf ei angen ar gyfer y dyfodol.
MWY O WYBODAETH

*********************************

Hwylusydd Creadigol

  • Dyddiad dechrau: Ionawr 2026
  • Termau: Contract llawrydd tymor penodol yn cynnwys 38 diwrnod y flwyddyn yn ystod tymor ysgol, rhan amser.
  • Oriau: 10am – 1pm. Dydd Sadwrn
  • Ffi: £25 yr awr.
  • Lleoliad: Mae Storyopolis wedi’i leoli yn Theatr Volcano ar Stryd Fawr Abertawe

Amlinelliad o’r rôl
Gan gydweithredu’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Prosiect, Tim Barcup a Laura Webb, a’n hwylusydd
Creadigol, eich rôl fydd arwain ar weinyddu a chydlynu rhaglen eang Storyopolis o weithgareddau’n
seiliedig ar lythrennedd sy’n cael eu darparu yn ein Clwb Dydd Sadwrn. Bydd gennych gyfle i lywio
cyfeiriad y prosiect arloesol hwn fel ei fod yn parhau i roi budd i blant a phobl ifanc Abertawe sydd
fwyaf ei angen ar gyfer y dyfodol.
MWY O WYBODAETH

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education