Gweithdy

Creu Papur Planhigion

Gweithdy Creu Papur Planhigion

Ymunwch â Volcano yn Goleudy am weithdy 3 awr gyda Phapur Planhigion Gwyllt – dysgwch y gelfyddyd hynafol o wneud papur yn defnyddio mwydion wedi’u hailgylchu y gallwch ei wneud gartref, a mwydion a wnaethpwyd o blanhigion a dyfir yn lleol. Gallwch arbrofi trwy ychwanegu gwrthrychau bach i’r mwydion a’r taflenni i greu gwaith celf gwreiddiol. Bydd pawb yn gadael gyda thaflenni papur a wnaed ganddynt i sychu gartref, ac i’w defnyddio ar gyfer unrhyw brosiect crefft o’u dewis.

 

Bydd bwffe a lluniaeth ar gael gan Goleudy. Mae’r gweithdy ar agor i bawb ac fe’i cynhelir yn Goleudy, The Customs House, Cambrian Place, SA1 1RG.

 

Diolch i Gyngor Abertawe am eu cymorth i ariannu’r gweithdy. Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i bawb.

Archebwch yma: https://www.ticketsource.co.uk/booking/t-avnexnl

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education