Mae Volcano yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig

Bydd ein hymroddiad cyflog byw yn gweld pawb sy’n gweithio i Volcano yn ennill cyflog fesul awr o £9.30 y lleiaf yn y DU neu £10.75 yn Llundain. Mae’r ddwy raddfa yn uwch nag isafswm y llywodraeth i bobl dros 25, sy’n £8.72 ar hyn o bryd.

Mae Volcano yn cael ei sefydlu yng Nghymru, rhanbarth gydag un o’r cyfranneddau mwyaf o swyddi sy ddim yn talu’r cyflog byw yn y DU (21%) gyda thua 241,000 o swyddi yn talu llai na’r cyflog byw. Er gwaethaf hynny, mae Volcano wedi gwneud ymroddiad i dalu’r cyflog byw a darparu cyflog teg i ddiwrnod am ddiwrnod caled o waith.

Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig raddfa dâl sy’n cael ei gyfrifo gan gostau byw. Mae’n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sydd eisiau sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog eu bod nhw’n gallu byw arno, nid isafswm y llywodraeth yn unig. Ers 2011, mae’r mudiad cyflog byw wedi rhoi codiad cyflog i dros 230,000 o bobl ac wedi rhoi dros £1 biliwn ychwanegol mewn i bocedi gweithwyr ar gyflog isel.

Meddai Katherine Chapman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyflog Byw: “Rydyn ni wrth ein modd bod Volcano wedi ymuno’r mudiad o dros 6000 o gyflogwyr ar draws y DU. Maen nhw wedi gwneud ymroddiad gwirfoddol i fynd ymhellach nag isafswm y llywodraeth i sicrhau bod eu staff yn ennill digon i fyw.”

“Maen nhw’n ymuno â miloedd o fusnesau bychain ochr yn ochr ag enwau cyfarwydd fel Burberry, Barclays, clybiau pêl droed Chelsea ac Everton, Lush a llawer mwy. Mae’r busnesau hynny yn cydnabod bod talu cyflog byw go iawn yn nod cyflogwr cyfrifol ac maen nhw fel Volcano yn credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teg o gyflog.”

Living Wage Employer_CYM
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education