Juiced to Death

gan Joanna Simpkins

Juiced to Death gan Joanna Simpkins

Dyddiadau’r Perfformiad: 12/06/2025 – 14/06/2025
Amseroedd y Sioe:

  • Dydd Iau 12fed: 8:00 pm
  • Dydd Gwener 13eg: 6:30 pm a 8:00 pm
  • Dyddiau Sadwrn 14eg: 2:00pm a 5:00 pm

www.ticketsource.co.uk/volcano/e-gyeygd

Dyw heneiddio ddim ar gyfer y gwan galon.

Bwriad Joanna yw archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn fenyw yn 2025. A yw’r holl smwddis anhygoel rydyn ni’n eu llyncu wir werth e? Yn y byd sydd ohoni a yw hi’n bosib croesawu heneiddio gyda breichiau agored? 

Bydd Joanna’n archwilio’r ‘Stafell’ drwy fenyw sy’n gaeth i gymysgedd ddiddiwedd o suddion, Botox, dietau ac ymchwil barhaus am ffordd o wella ei hun. Gallai cwestiynu eich hun ar bob cornel o’ch bywyd eich caethiwo mewn blwch. A oes unrhyw ddihangfa’n bosib? 

Mae Joanna Simpkins yn hanu o Hull yn Swydd Efrog ac mae’n gyfarwydd iawn ag arfordir Cymru. A hithau wedi ei hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda chwmnïau theatrau, gan gynnwys cynhyrchiad o The Seagull gyda Volcano yn 2015. 

Mae ei gwaith yn amrywio’n fawr o ddramâu Cyfoes, testunau Clasurol a Theatr Gorfforol ac mae ar dân eisiau archwilio’r llwybrau hyn gan ddefnyddio’i llais ei hun, a’i phrofiad bywyd. 

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education