Pan Elo'r Adar
NOS FERCHER 24 MEDI 2025 7:30pm
Gan godi cwestiynau ynglŷn â’n perthynas ni gyda byd natur ac ieithoedd lleiafrifedig fel ei gilydd, mae Pan elo’r adar yn gynhyrchiad theatr gobeithiol sy’n ein hannog i weithredu er mwyn y dyfodol.
Wedi’i gyflwyno mewn arddull gorfforol a chwareus gan yr artistiaid Rhiannon Mair a Steffan Phillips, mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys perfformiadau byw gan y cerddorion Heulwen Williams ac N’famady Kouyaté, gwaith animeiddio gan Efa Blosse-Mason a thrac sain gan Ani Glass.
Mae’n trafod yr argyfwng y mae natur ac iaith ynddi, a phwysigrwydd mynd i’r afael â’r naill i sicrhau bod y llall yn cael ei warchod ac yn ffynnu. Mae’r gwaith hwn yn amserol o ran ei themâu ac yn cynnig llwyfan i drafod.
Cyflwynir y gwaith ar ffurf cylch; cylch sydd yn cynrychioli treigl amser, yn symbol o gylch y rhod a pherthynas symbiotig. Mae Rhiannon a Steffan yn defnyddio arddull gorfforol yn y gwaith a ddatblygwyd gyda’u cyfarwyddwr symyd profiadol, Dan Watson. Y mae’n cynnwys agwedd arbrofol ar gemau plant fel modd o herio a mynegi rwystredigaeth ynglŷn â’r hyn sydd yn y fantol. Digwydda hyn oll i gyfeiliant byw persain Heulwen a N’famady, sydd yn cyfrannu at greu profiad cofiadwy. Er bod themâu’r cynhyrchiad yn ddwys, y nod yw y bydd y gynulleidfa’n gadael gan deimlo’n obeithiol ac wedi’u hymbweru.
TOCYNNAU
Cyflwynir y gwaith gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Cymru a phrosiect Gwreiddiau Gwyllt gan Fentrau Iaith Cymru. Diolch hefyd i Theatr Felinfach, Frân Wen a Phrifysgol De Cymru.



