Equality & Diversity

POLISI CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

Mae Cwmni Theatr Volcano wedi ymrwymo i bolisi ac arfer cyfleoedd cyfartal, a bydd yn sicrhau bod pob gweithiwr a defnyddiwr gwasanaeth, presennol a phosib, yn cael eu trin yn gyfartal ac fel unigolion, waeth beth yw eu hoed, anabledd, ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol, rhyw neu rywedd, statws priodasol neu rieni, cred wleidyddol, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol.

 

Wrth weithredu’r polisi hwn, bydd Cwmni Theatr Volcano yn cymryd cyfrifoldeb am ddeddfwriaeth berthnasol bresennol: yn enwedig y Ddeddf Gydraddoldeb 2010 a Mesur y Gymraeg 2011 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 

O dan y Ddeddf Gydraddoldeb 2010, ni ddylai unrhyw berson gael eu gwahaniaethu neu drin yn llai ffafriol nag unrhyw un arall ar sail y nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • oed
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

 

Yn ogystal, mae Mesur yr Iaith Gymraeg yn nodi’r egwyddorion canlynol:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
  • Dylai pobl allu byw eu bywydau yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

 

Mae’r polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth hwn yn berthnasol i bob agwedd o waith y sefydliad, yn cynnwys:

 

  • Penodi aelodau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
  • Penodi staff, amodau eu gwaith a gweithdrefnau cyflogaeth.
  • Yr holl gysylltiadau gyda’r cyhoedd a defnyddwyr y wasanaeth.
  • Denu gwirfoddolwyr.

 

Bydd Cwmni Theatr Volcano yn gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (adolygir yn flynyddol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr) ac mae wedi rhwymo gan y Contract Diwylliannol sy’n berthnasol i sefydliadau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r cwmni’n cydnabod ac yn ategu’r diffiniad cymdeithasol o anabledd, yn cadarnhau fod Bywydau Du o Bwys, ac yn cydnabod statws cydradd y Gymraeg a Saesneg fel ieithoedd swyddogol yng Nghymru. Mae’r cwmni’n cefnogi’r achos artistig a moesegol ar gyfer amrywiaeth, ac yn cydnabod yr effaith niweidiol all anghydraddoldeb ei gael ar fywyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol y genedl.

 

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae Cwmni Theatr Volcano yn cydnabod nad yw ein Bwrdd yn cynrychioli amrywiaeth Cymru a’n cymuned leol yn llawn eto. Rydym yn cydnabod fod hyn yn arwydd o anghydraddoldebau strwythurol parhaus, ac yn cydnabod ein cyfrifoldeb i weithio’n galed i newid hyn. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn manylu targedau a gweithredoedd. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cael ei weithredu, monitro a’i adolygu’n gywir.

 

Staff

Bydd Cwmni Theatr Volcano yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd swydd, gweithiwr neu wirfoddolwr yn derbyn triniaeth llai ffafriol nag eraill ar sail y nodweddion gwarchodedig uchod.

 

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i ymgymryd â gweithdrefnau dewis a recriwtio agored lle bynnag fo’n bosib a phriodol. Hysbysebir yr holl swyddi gwag, a dilynir prosesau rhestr fer a chyfweld teg a chydradd. Mae’n rhaid i weithwyr y sefydliad fod yn ymwybodol o’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a derbyn hyfforddiant ar faterion cyfleoedd cyfartal fel sy’n briodol. Bydd y cwmni’n cael gwared â rhwystrau i recriwtio cydradd ac yn gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau mynediad. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen gweithredu’n gadarnhaol i unioni anghydraddoldeb lle fo’n ganiataol yn ôl y gyfraith ac yn cyfateb i amcanion y polisi.

 

Mae Cwmni Theatr Volcano yn gweithredu gweithdrefnau disgyblu a chwyno, ac mae’r holl staff yn ymwybodol ohonynt. Ystyrir unrhyw ymddygiad neu weithred sydd yn erbyn ysbryd a/neu gynnwys y deddfau cyfleoedd cyfartal sy’n sail i’r polisi yn faterion disgyblu difrifol. Archwilir pob cwyn.

Y Cyhoedd a Defnyddwyr Gwasanaeth

Mae Cwmni Theatr Volcano yn ceisio gwneud ei wasanaethau’n hygyrch i ystod mor eang o’r cyhoedd â phosib, ac er mwyn gwneud hyn, bydd yn cymryd camau i gael gwared â rhwystrau sy’n atal cynulleidfaoedd, ymgeiswyr a defnyddwyr eraill posib rhag derbyn mynediad cydradd at weithgareddau’r sefydliad.

 

CAM GWEITHREDU

Cefnogir y polisi gan GYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL sy’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol, ac sy’n manylu’r camau gweithredu a gymerir yn ystod y flwyddyn bresennol i weithredu’r polisi ac egwyddorion uchod.

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education