The Mighty New

Symudiad a pherfformiad creadigol i blant 9-14 oed

Dyddiau Sadwrn 12 – 1yp

The Mighty New yw criw ieuengaf Volcano! Dychwelodd y dosbarth i Volcano fis Medi 2020 ar ôl symud ar-lein yn ystod y cyfnod o dan gyfyngiadau symud, eu cyfrwng ar gyfer cwblhau chwe thasg chreu pedwar fideo i’w rhannu â’r cyhoedd. Mae gan y grŵp wefan breifat ar gyfer rhannu syniadau. Edrychwch ar eu sianel Vimeo yma!

Mae’r sesiynau’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio eu syniadau, ysbrydoli’r naill a’r llall, a darganfod sgiliau newydd. Mae’r pwyslais ar alluogi’r cyfranogwyr i ddatgloi eu creadigedd drwy arbrofi gyda pherfformio a datblygu ymddiriedaeth a hyder (ynddynt eu hunain a’i gilydd) mewn amgylchedd proffesiynol cefnogol. Rydym yn herio pobl ifanc gyda thasgau byrfyfyrio sy’n gofyn am gyfranogiad ymarferol, dychmygol. Nod Volcano yw rhoi’r adnoddau a’r sgiliau i berfformwyr ifanc allu symud a meddwl drostynt eu hunain yn hyderus a chreu eu gwaith eu hunain.

Mae pobl ifanc o Volcano wedi creu a pherfformio gwaith gwreiddiol gan gynnwys Ordered Chaos a Micropolis, ac wedi ymddangos gydag actorion proffesiynol yng Nghynhyrchiad Volcano, Hispaniola! yn 2019.

Arweinir y dosbarthiadau gan Artist Cyswllt Volcano, sy’n gyfarwyddwr proffesiynol, dawnsiwr a choreograffydd, Catherine Bennett.

Yn anffodus, roedd yn amlwg na fyddent yn gallu perfformio o flaen cynulleidfa fyw eleni, felly fe grëwyd darn arbennig ar gyfer fideo.Derbyniodd y prosiect Magic Little Grant trwy’r bartneriaeth rhwng Localgiving ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post.

Cafodd Looking Sideways: From the Future ei wneud mewn ymateb i deimladau ar y cyd The Mighty New yn ystod y flwyddyn anarferol hon – blwyddyn y pandemig.

Rwy’n gweld eu cyrff yn symud yn y gwagle, ac yn gweld eu symudiad fel anthem ar gyfer ein hieuenctid penderfynol. Mae aelodau Mighty New wedi chwilio am, dod o hyd i, a theimlo herfeiddiwch. Herfeiddiwch at bwy ydyn nhw, pwy y gallan nhw fod, a sut all eu breuddwydion ddwyn ffrwyth o hyd. Yn fy marn i, er gwaethaf y rheolau newydd hyn y mae pob un ohonynt wedi gorfod eu dilyn, mae pob un wedi teimlo, meddwl, a deall beth mae rhyddid yn ei olygu iddyn nhw.” Catherine Bennett

Mae’r dosbarthiadau’n cael eu cynnal gan sicrhau pellter cymdeithasol rhwng cyfranogwyr tra bod y rheolau Coronafeirws mewn grym, er y gall plant o’r un cartref weithio gyda’i gilydd. Bydd unrhyw aelodau grŵp nad ydynt yn gallu mynychu oherwydd ynysiad ac ati yn derbyn tasgau fideo iddynt allu ymuno o’r cartref.

Mae’r ffioedd yn £45 y tymor*
*Mae nifer gyfyngedig o leoedd bwrsariaeth ar gael yn rhad ac am ddim i’r rhai na allant dalu ffi’r cwrs. Nodwch yn eich e-bost os ydych eisiau gwneud cais am le bwrsariaeth os gwelwch yn dda – mae’r broses ymgeisio’n syml iawn.

ARCHEBU LLE
NODWCH EFALLAI Y BYDD RHESTR AROS I YMUNO Â’R DOSBARTHIADAU OS GWELWCH YN DDA!
Cysylltwch â Catherine am ragor o wybodaeth.

localgiving
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education