The Populars – pedwar perfformiwr ifanc sy’n trefnu parti dawns ar gyfer cenedl ranedig. Maent yn edrych tua’r dyfodol ac yn meddwl tybed sut fydd hi’n teimlo i fod yno. Mae ganddynt gwestiynau ar eich cyfer chi, pethau’n pwyso ar eu meddyliau a chaneuon gwych i’w chwarae a fydd yn procio’r cof a’r cyhyrau fel ei gilydd. Rhannwch eich barn am yr awyrgylch, dywedwch ble oedd y lle diwethaf ichi ddawnsio â’ch holl egni, a phwy yw’r gorau yn eich barn chi.
Gallwch ddisgwyl chwys, secwins a golwg hwyliog ar hyn sy’n uno neu’n rhannu pobl yn y cyfnod ansicr hwn.
"Ffurfiau cyfranogol yw popeth ar hyn o bryd. Maent yn galluogi pobl i brofi eu hunain ac eraill mewn ffyrdd newydd – mynd ymhellach na meddwl am eu hunain fel defnyddwyr cynnyrch diwylliannol, gan fynd ati i arbrofi mewn ffyrdd hwyliog a risg-isel â ffurfiau ar weithrediad a chymuned, a thrwy hynny roi cynnig ar ffyrdd newydd o fodoli [...] mae Brexit fel ysbryd yn y cefndir drwy gydol y sioe, ond nid yw'n chwarae rhan uniongyrchol; yn hytrach, mae'r awr fywiog o hiwmor, agosatrwydd, bregusrwydd a llawenydd yn cynnig enghraifft o ffordd fwy agored o fodoli."
THE SCOTSMAN
"Mae Cwmni Theatr Volcano yn gwrando ar yr hyn 'ddylai' theatr fod ac yna'n ei anwybyddu ac yn dawnsio i'w guriad ei hun. Dyma theatr bromenâd ar ei gorau."
BROADWAY BABY
Mae The Populars yn trin a thrafod lle; lle llawn cyrff, lle wedi'i adael yn wag, lle sy'n perthyn i chi neu rywun arall, a chwalu'r llinellau rhwng y lleoedd hyn, yn ogystal â'r llinellau rhwng popeth arall. Y canlyniad yw lle ar y trothwy, lle mae unrhyw beth yn bosib."
EDINBURGH FESTIVALS MAGAZINE
"Mae Volcano'n hoffi creu theatr ar gyfer pobl nad ydynt yn rhan o'r cynulleidfaoedd arferol: theatr rymus, ddeinamig sy'n creu argraff weledol. Ar ôl rhoi cynnig ar Chekhov, maent yn gosod her anferthol iddynt eu hunain, sef parti dawns ynghylch Brexit. Yng nghanol yr holl ansicrwydd, dyma gyfle i ddawnsio i anghofio'r anhrefn a dychmygu ffordd arall o fod gyda'n gilydd a chamu dros y rhaniadau sy'n carcharu pobl yn eu cewyll dychmygus ac ideolegol."
THE LIST
Cast: Neal McWilliams; Elin Phillips; Mali Ann Rees, Rick Yale
Chyfarwyddwyd: Paul Davies
Cyfarwyddwr Symudiadau: Catherine Bennett
Gwisgoedd: Al Edge & Allie Saunders
Cast 2017: Roanna Lewis; Neal McWilliams; Elin Phillips; Rick Yale
Volcano Theatre
27 – 29 High Street
Swansea SA1 1LG
Tel:+44 (0) 1792 464790
mail@volcanotheatre.co.uk
Tuesday – Saturday
10:00 am – 17:00 pm
Sunday – Monday – Closed