Contract diwylliannol

Y Contract Diwylliannol

Mae gweithgareddau Volcano yn cael eu cefnogi gan gyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac felly mae’r sefydliad yn rhwym dan y ‘Contract Diwylliannol’ – ymrwymiad i sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu gydag effaith gymdeithasol gadarnhaol, a bod y sefydliadau sy’n derbyn y cyllid yn gweithio’n agos gyda’u cymunedau, ac yn hygyrch i holl ddinasyddion Cymru. Mae egwyddorion y contract yn cynnwys:

  • Gweithio’n Deg – sicrhau cyfraddau cyflog addas a chynyddu cyfleoedd i ymgysylltu a chefnogi gweithwyr llawrydd.
  • Amrywiaeth o fewn y bwrdd a’r gweithlu – cael mwy o bobl Dduon, pobl groenliw sydd ddim yn ddu (NBPoC), pobl D/byddar ac anabl a phobl gyda nodweddion warchodedig eraill, yn cynnwys siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan yn y gwaith rydym yn ei ddarparu ac ar draws y sefydliad.
  • Cael y staff a gadwyd i gefnogi mentrau ehangach (er enghraifft, yn y sefyllfa bresennol, olrhain cysylltiadau i gefnogi “Profi, Olrhain, Diogelu”)
  • Cefnogi mentrau celfyddydol ac iechyd a chyfrannu at lesiant unigolion a chymunedau.
  • Cynaliadwyedd amgylcheddol – lleihau effaith amgylcheddol ein gweithgareddau a datblygu modelau newydd ar gyfer gweithio’n gynaliadwy.

Mae Volcano yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Mae Volcano’n cefnogi cyfradd Living Wage Foundation fel isafswm.  Rydym yn defnyddio ITC/contractau Cydraddoldeb ar gyfer perfformwyr, ac yn talu ffioedd cyfraddau-ITC ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol llawrydd.

Ar hyn o bryd, nid yw ein Bwrdd a gweithlu yn cynrychioli amrywiaeth Cymru a’n cymuned leol yn llawn. Rydym yn cydnabod fod hyn yn arwydd o anghydraddoldebau strwythurol parhaus, ac yn cydnabod ein cyfrifoldeb i weithio’n galed i newid hyn. Yn 2020/21 byddwn yn rhoi sylw penodol i recriwtio pobl Dduon, NBPoC a phobl anabl, ac yn amcanu i recriwtio dau Ymddiriedolwr newydd.

Ail-agorodd Volcano gyda gweithgareddau cyfyngedig ar 27 Gorffennaf 2020. Mae gennym fesurau Covid-19 ar waith, gan gynnwys system gofrestru Profi, Olrhain a Diogelu, ac mae ein drysau’n agored i’r gymuned o leiaf pum diwrnod yr wythnos. Mae gennym raglen Oriel gynorthwyol ar waith i gefnogi artistiaid, ac rydym wedi addasu ystod lawn ein gwaith yn unol â’r sefyllfa, sy’n cynnwys cyfraniad actif y staff a gadwyd.

Yn ganolog i ethos Volcano mae darparu mynediad i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol i feithrin llesiant unigol, ffynnu bywyd cymunedol ac ecoleg ddinesig iach. Adlewyrchir hyn yn ein gwaith gyda phobl ifanc, ‘O’r Orsaf i’r Môr’ a’i brosiectau etifeddiaeth, a fforddiadwyedd a hygyrchedd perfformiadau a digwyddiadau yn ein lleoliad. Bydd prosiect newydd yn 2021 yn archwilio teimladau a safbwyntiau preswylwyr Abertawe ar theatr a theatrau, a’u safle ym mywyd y gymuned.

Mae Volcano wedi bod yn gweithio ar ddychmygu dyfodol cynaliadwy ers cyflwyno ei brosiect blaenllaw, Emergence, a Summit mewn partneriaeth â’r Ganolfan Technoleg Amgen o 2010 ymlaen. Yn y cyfnod presennol, mae’r cwmni yn ceisio mynd i’r afael â’r materion cynaliadwyedd sy’n gysylltiedig ag ansicrwydd modelau ‘defnydd dros dro’ a symud at fodel cydweithio cynaliadwy tymor hir ar gyfer gweithgareddau celfyddydol annibynnol yn ei ddinas wreiddiol.

Living Wage Employer_CYM
This website is hosted Green - checked by thegreenwebfoundation.org
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education