Projects_banner

Yn ogystal â’i raglen graidd o gynyrchiadau theatr, yn aml mae Volcano yn gweithio – fel rheol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill – ar ragor o brosiectau creadigol ar draws ystod o feysydd o ddiddordeb a phwysigrwydd i’n dinas, ein cymuned a’n hymarfer. Yn yr un modd â’r theatr, ein nod yw gwneud ymyriadau nodedig sy’n corddi doethineb cyffredin ac yn creu lle i ddychmygu pethau’n wahanol.

Poverty, Power and Resistance: New Collaborations for Cultural Democracy

Prosiect ymchwil a datblygu newydd yn canolbwyntio ar ecoleg ddiwylliannol Abertawe.

Bydd Volcano yn gweithio gyda Oriel Glynn Vivian, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Oxfam Stryd y Castell a Teatro El Extranjero o’r Ariannin.

Bydd pedwar sefydliad diwylliannol pwysig yn Abertawe yn datblygu gweledigaeth ar gyfer democratiaeth ddiwylliannol a gwytnwch lleol/byd-eang ar gyfer ail ddinas Cymru, yn cynnwys safbwyntiau a fframweithiau o Buenos Aires (a Phatagonia efallai), drwy gynnal trafodaethau rhwng defnyddwyr, cymunedau, ac artistiaid annibynnol, mewn ymateb i heriant gan artistiaid annibynnol a dinasyddion. Wrth feddwl yn agored am dirlun y ddinas nawr, gofynnwn sut mae pobl yn cael, neu’n cael eu gwahardd rhag profiadau diwylliannol, sut mae hyn yn trosglwyddo i dirluniau pŵer a braint, a sut allwn ni ddemocrateiddio diwylliant ac adfywio bywyd cymunedol fel gwarcheidwaid asedau diwylliannol.

A oes modd i sîn amrywiol, aml-ddiwylliannol greu asiantaeth wleidyddol ac amharu ar gysylltiadau pŵer cyffredinol. Drwy ofyn cwestiynau am dlodi ac anghydraddoldeb, byddwn yn awgrymu’r syniad fod y celfyddydau yn fudd cymdeithasol, er mwyn dychmygu gwytnwch yn cael ei feithrin o ryngweithio creadigol ym mywyd trefol bob dydd.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan raglen arloesol newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Cysylltu a Ffynnu, sy’n cefnogi cynigion i sefydliadau ac artistiaid roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio gyda’i gilydd yn sgil yr amgylchiadau heriol newydd sydd wedi codi o’r argyfwng Coronafeirws.

Connect and Flourish partner logo

Connexions: Places and Spaces

Prosiect rhyngwladol newydd sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Cydweithio Digidol Prydain

Bydd tri sefydliad, sy’n gweithredu fel gwarcheidwaid asedau diwylliannol yn eu dinasoedd eu hunain, yn defnyddio eu statws fel canolfan i hyrwyddo a dechrau trafodaeth, dysgu a chydweithio rhyngwladol ymhlith amrywiaeth o sefydliadau sydd wedi cysylltu â’u canolfannau eu hunain. Bydd llwyfan digidol newydd yn cynnal, dechrau a chefnogi’r trafodaethau hyn wrth iddynt ddatblygu a chynhyrchu cysylltiadau cydweithio newydd.

Rydym yn gobeithio creu cymundod bach, amrywiol a rhyngwladol o ymarferwyr cymunedol a threfnol diwylliannol, wedi’i drefnu o amgylch sefydliadau neu ganolfannau diwylliannol mewn tair gwlad bartner – Cymru, Brasil a’r Ariannin. Bydd y cymundod yn cynhyrchu maniffesto.

Pwrpas y trafodaethau hyn yw cryfhau a chyfoethogi arferion presennol; dysgu ffyrdd newydd o wneud pethau gan eraill; deall yr amgylchiadau gwahanol y mae ein cyfatebwyr yn gweithredu oddi tanynt; llywio, addysgu, synnu, ac arddangos pwysigrwydd dinesig/cyhoeddus y celfyddydau, nid yn unig fel ‘sector’ ond fel byd lle gwneir mathau gwahanol o weithgareddau. Bydd syniadau newydd ar gyfer prosiectau, cysylltiadau cydweithio, a pherfformiadau newydd o bosib yn deillio o’r trafodaethau amlochrog rhyngwladol hyn.

Cynhelir y rhwydwaith ar lwyfan digidol newydd wedi’i greu gan ddefnyddio meddalwedd ddysgu tarddiad-agored, a gall cyfranogwyr ei defnyddio am ddim.

Partneriaid y prosiect yw Theatr Volcano (Abertawe), Remo Produções Artísticas, cynhyrchydd Festival Internacional de Teatro de Pernambuco (Brasil) a Teatro El Extranjero (Buenos Aires).

Connect and Flourish partner logo

From the Station to the Sea

O 2014-2018, rhoddwyd oddeutu £230K i Volcano a Grŵp Tai Coastal dan gynllun Syniadau Pobl Lleoedd Cyngor Celfyddydau Cymru, a oedd â’r nod o arbrofi gydag ‘adfywiad’, a rôl y celfyddydau a diwylliant oddi mewn iddo, a newid y ffordd y caiff ei ddychmygu a’i weithredu, ac ymgorffori’r modelau newydd hyn o fewn llefydd a chymunedau yn y tymor hwy.

Roedd ein prosiect a oedd yn dwyn y teitl FROM THE STATION TO THE SEA, yn ymwneud â Stryd Fawr Abertawe. Dyma oedd y lleiaf o’r saith prosiect Syniadau Pobl Lleoedd, a oedd wedi’u lleoli yng nghyd-destunau cymunedau nodedig o ran daearyddiaeth a chymdeithas ledled Cymru. Roedd From the Station to the Sea yn rhaglen o brosiectau amrywiol cysylltiedig, a’r cwbl yn mynd i’r afael ag anghenion, dyheadau a dealltwriaethau etholaethau penodol. Gan weithio gyda phreswylwyr, sefydliadau lleol, masnachwyr, ysgolion, gweithwyr, cymudwyr, ymwelwyr a phobl sy’n cael eu gwahardd yn gymdeithasol, nod y prosiect oedd aflonyddu’r prif gysylltiadau pŵer drwy ymyriadau dychmygol yn nefnydd a chylch cymdeithasol y stryd.

Ar ôl Syniadau Pobl Lleoedd, rydym wedi ceisio adeiladu ar ddealltwriaethau, partneriaethau a chynnydd y prosiect drwy nifer o Brosiectau Gwaddol Station to Sea, gan gynnwys:

STORYOPOLIS
BEASTLY ONGOINGS
WHAT MAKES A HOME

Polart Circle

Prosiect Erasmus+ wedi’i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd

Mae POLART CIRCLE yn dwyn ynghyd naw sefydliad diwylliannol (gan gynnwys Volcano) ledled Ewrop i greu a rhannu adnoddau dysgu ar-lein a darparu cyfleoedd hyfforddi rhyngwladol.

Ein nod yw dogfennu a rhannu dulliau a phrosesau gwahanol ymarferwyr yn y celfyddydau perfformio drwy MOOCs (Massive Open Online Courses), sydd ar gael i fyfyrwyr, addysgwyr a dinasyddion i fod yn sail i’w trafodaethau a’u harferion gwleidyddol ac artistig eu hunain.

Mae ein sefydliadau partner yn amrywio o wneuthurwyr theatr annibynnol i ddarparwyr addysg mawrion a sefydliadau dinasyddiaeth. Mae proses greu’r MOOCs yn rhoi cyfleoedd i bobl dan hyfforddiant deithio rhwng y gwledydd partner, ennill sgiliau a dealltwriaethau o ystod eang o arferion creadigol.

Mae’r partneriaid fel a ganlyn: La Transplanisphère (Ffrainc); Lithuanian Academy of Music and Theatre; ODC Ensemble / Vyrsodepseio (Gwlad Groeg); Ex Quorum (Portiwgal); Public Open University of Zagreb (Croatia); Ortzaï Teatro (Sbaen, Gwlad y Basg); Cittadinanzattiva (Yr Eidal) a Teatermaskinen (Sweden).

Gweler yr holl MOOCs ar wefan Polart Circle!

polart circle

Storyopolis

Prosiect Gwaddol Station to Sea
Cefnogwyd gan Sefydliad Garfield Weston

Mae Storyopolis yn brosiect llythrennedd ychydig yn wahanol i’r arfer. Mae Storyopolis yn fenter fywiog, wedi’i lleoli yng nghanol y ddinas yn Abertawe, ac yn cynnig fframwaith arloesol ar gyfer ysgolion a theuluoedd o ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol a diwylliannol i ymgysylltu â gweithgareddau o safon uchel sy’n meithrin hyder, sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd plant a phobl ifanc, gan eu galluogi i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y byd. O gomics, bîtbocsio ac animeiddiad lego i ysgrifennu caneuon a newyddion ffug, mae Storyopolis yn manteisio ar ystod lawn o gyfryngau, technegau a chyweiriau naratif, gyda’r nod o feithrin a datblygu llythrennedd yn ei synnwyr ehangaf ymhlith ein holl ddinasyddion ifanc.

Dychmygwyd Storyopolis gan Tim Batcup ac fe’i datblygwyd yn gyntaf rhwng 2015 a 2018 dan From the Station to the Sea, Prosiect Syniadau Pobl Lleoedd gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Storyopolis wedi cael cefnogaeth gan Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Oakdale ac Ymddiriedolaeth Ernest Cook.

Ers 2019, mae Storyopolis wedi bod yn rhan o gyfnod newydd o weithgareddau gyda chefnogaeth gan Sefydliad Garfield Weston.

Cyfarwyddwr y Prosiect Tim Batcup
Cynhyrchydd Creadigol Roz Moreton

GWEFAN STORYOPOLIS

storyopolis

What Makes a Home

Prosiect Gwaddol Station to Sea
Cefnogwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn

Gwyddom nad oes gan rai pobl gartref maent yn berchen arno, a gwyddom yr hoffai nifer o bobl fyw mewn cartref gwahanol i’r cartref maent yn byw ynddo ar hyn o bryd.

Yn nhrydydd ailadroddiad y prosiect datblygol hwn am gartref, gan weithio ar y cyd â Grŵp Tai Coastal ac artistiaid wedi’u lleoli yn Abertawe, creasom le dros dro o’r enw What Makes a Home mewn lleoliad yng nghanol Abertawe.

Roedd y prosiect hwn yn ceisio darganfod, mewn modd chwareus a chyfranogol, beth fyddai pobl yn ei wneud petai ganddynt amser i archwilio beth sy’n cyfleu cartref iddynt hwy.

Yr artistiaid cyfranogol yw preswylwyr Tai Coastal, sydd wedi archwilio a chwestiynu eu dealltwriaeth o beth mae cartref yn ei olygu iddynt hwy. A yw’n le, bod yn gysylltiedig â’u cymuned, goleuadau a synau, sgwrs rhwng teulu, neu’r gwely mwyaf y gallwch ei ddychmygu? Gan greu gwahanol ‘gartrefi’, ein gobaith yw creu dadl, trafodaeth a difyrrwch drwy archwilio sut mae’n gwneud i ni deimlo pan fyddwn yn dechrau meddwl, yn ymwybodol, am sut ydym yn meddiannu a byw yn ein cartref.

Drwy weithio dros gyfnod o bedair wythnos, gwireddodd y pum cyfranogwr, a gafodd eu paru ag artist proffesiynol wedi’i leoli yn Abertawe, eu gweledigaeth o beth sy’n gwneud cartref iddynt hwy mewn pum gosodiad. Yna addasodd a chysylltodd Philip Cheater y llefydd i greu taith o’r gwahanol syniadau am gartref.

Cafodd ‘Cartrefi’ cyfranogwyr eu harddangos ar hen safle ‘Happy Homes’ yn Stryd y Castell, Abertawe fis Mai a Mehefin 2019. Cadwch lygad am ein hailadroddiad nesaf o’n prosiect Cartref!

 

TÎM Y PROSIECT:
Cynhyrchydd Creadigol Roz Moreton

Artistiaid: Zepur Agopyan, Jason A’hearn, Philip Cheater, Gary Crosby, Emily Davies, Chris Harris, Ray Hobbs, Saba Humayun, Jason & Becky, Lee Ludick, Dili Pitt, Eifion Porter, Fran Williams.

Diolch i Geraldine Osborne, BP2 Property, Huw Williams, Jeremy Hill, CJ Ashen.

What makes a home logos

Beastly Ongoings

Prosiect Gwaddol Station to Sea
Cefnogwyd gan Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru

Dygodd Beastly Ongoings ynghyd tri sefydliad gwahanol iawn ond yr un mor ddynamig yng nghanol Stryd Fawr Abertawe i greu antur synhwyraidd a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu dwys a niferus, a’r staff sy’n gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi. Roedd y plant yn cael eu dilyn gan deigrod, yn gadael eu holion bysedd mewn ystafell ffosilau, yn cuddio eu hunain ymhlith creaduriaid rhyfedd ac yn rhyddhau’r anifail oddi mewn iddynt!

Roedd y prosiect ar y cyd yn adeiladu ar y gwaith a wnaeth Ysgol Crug Glas, Theatr Volcano a Grŵp Tai Coastal gyda’i gilydd rhwng 2014 a 2018 yn ystod y prosiect Stryd Fawr From the Station to the Sea. Llawr canol warws hanesyddol Kings Lane, sydd wedi cael ei achub rhag mynd yn adfail gan Coastal fel rhan o’i gynllun Pentref Trefol, fydd lleoliad yr wythnos hon o antur, a gefnogir gan grant Cydweithio Creadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ysbrydolwyd BEASTLY ONGOINGS gan lyfrau lluniau Shaun Tan a syniadau’r pensaer Aldo Van Eyck. Mae Tan yn creu bydoedd dychmygus hyfryd sy’n llawn dop o anifeiliaid, lleoedd a gwrthrychau sy’n gyfarwydd ac yn ddieithr ar yr un pryd.  Mae gwaith Aldo van Eyck yn gwerthfawrogi naws am le ac achlysur ac yn ymwneud â chreu mannau trefol ar gyfer pobl drwy ddyluniadau sy’n rhoi lle i chwarae a’r dychymyg.

Dychmygwyd gan Catherine Bennett a Clare Hobson
Ysbrydolwyd gan waith Shaun Tan ac Aldo van Eyck
Cyfarwyddwyd gan Catherine Bennett
Perfformiwyd gan Rick Yale a Catherine Bennett
Dyluniwyd gan Chris Faulds
Artist Sain Luke Turner
Gwneuthurwr Zepur Agopyan
Gosod Eifion Porter
Perfformiwyd 18-22 Chwefror 2019

beastly ongoings
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education