Prosiect Gwaddol Station to Sea
Cefnogwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn
Gwyddom nad oes gan rai pobl gartref maent yn berchen arno, a gwyddom yr hoffai nifer o bobl fyw mewn cartref gwahanol i’r cartref maent yn byw ynddo ar hyn o bryd.
Yn nhrydydd ailadroddiad y prosiect datblygol hwn am gartref, gan weithio ar y cyd â Grŵp Tai Coastal ac artistiaid wedi’u lleoli yn Abertawe, creasom le dros dro o’r enw What Makes a Home mewn lleoliad yng nghanol Abertawe.
Roedd y prosiect hwn yn ceisio darganfod, mewn modd chwareus a chyfranogol, beth fyddai pobl yn ei wneud petai ganddynt amser i archwilio beth sy’n cyfleu cartref iddynt hwy.
Yr artistiaid cyfranogol yw preswylwyr Tai Coastal, sydd wedi archwilio a chwestiynu eu dealltwriaeth o beth mae cartref yn ei olygu iddynt hwy. A yw’n le, bod yn gysylltiedig â’u cymuned, goleuadau a synau, sgwrs rhwng teulu, neu’r gwely mwyaf y gallwch ei ddychmygu? Gan greu gwahanol ‘gartrefi’, ein gobaith yw creu dadl, trafodaeth a difyrrwch drwy archwilio sut mae’n gwneud i ni deimlo pan fyddwn yn dechrau meddwl, yn ymwybodol, am sut ydym yn meddiannu a byw yn ein cartref.
Drwy weithio dros gyfnod o bedair wythnos, gwireddodd y pum cyfranogwr, a gafodd eu paru ag artist proffesiynol wedi’i leoli yn Abertawe, eu gweledigaeth o beth sy’n gwneud cartref iddynt hwy mewn pum gosodiad. Yna addasodd a chysylltodd Philip Cheater y llefydd i greu taith o’r gwahanol syniadau am gartref.
Cafodd ‘Cartrefi’ cyfranogwyr eu harddangos ar hen safle ‘Happy Homes’ yn Stryd y Castell, Abertawe fis Mai a Mehefin 2019. Cadwch lygad am ein hailadroddiad nesaf o’n prosiect Cartref!
TÎM Y PROSIECT:
Cynhyrchydd Creadigol Roz Moreton
Artistiaid: Zepur Agopyan, Jason A’hearn, Philip Cheater, Gary Crosby, Emily Davies, Chris Harris, Ray Hobbs, Saba Humayun, Jason & Becky, Lee Ludick, Dili Pitt, Eifion Porter, Fran Williams.
Diolch i Geraldine Osborne, BP2 Property, Huw Williams, Jeremy Hill, CJ Ashen.