Gwahoddiad i Dendro

Astudiaeth Ddichonoldeb Volcano

Gwahoddiad i Dendro

Mae Theatr Volcano yn gwmni theatr annibynnol a chanolfan gelfyddydau gymunedol ar lawr gwaelod safle yng nghanol dinas Abertawe, sydd ar brydles o Beacon Cymru Group Ltd (Coastal Housing blaenorol).
Mae Volcano’n creu gwaith gwreiddiol sy’n chwareus, yn arbrofol, yn risg, ac yn syndod, ochr yn ochr â chynnal digwyddiadau teithiol a chymunedol. Mae Volcano wedi sefydlu, ac ehangu rhaglen gyfranogol addysg a’r gymuned, gan gysylltu gyda chymunedau sy’n ei chynnal, sydd ymysg y rhai sydd dan fwyaf o anfantais yng Nghymru.
Mae llawr cyntaf yr adeilad mae Volcano wedi’i leoli ynddo ar hyn o bryd wedi dod yn wag yn ddiweddar yn dilyn ymadawiad stiwdios Elysium. Mae cyfle posib yma i Volcano ehangu gweithrediadau i mewn i’r lleoliad hwn. Mae angen astudiaeth ddichonoldeb er mwyn gallu asesu hyfywedd a risgiau’r prosiect hwn a chefnogi cynnydd o RIBA 0 i RIBA 1.
Bydd angen i’r gwaith ddechrau erbyn 1af Hydref fan hwyraf, a’i gwblhau erbyn 31ain Ionawr 2026.
Manylion cyswllt: Laura Webb laura@volcanotheatre.co.uk

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education