BEASTLY ONGOINGS
Cydweithio Creadigol gydag Ysgol Crug Glas
BEASTLY ONGOINGS
Prosiect cyffrous a oedd yn dwyn ynghyd tri sefydliad gwahanol iawn ond yr un mor ddynamig yng nghanol Stryd Fawr Abertawe oedd BEASTLY ONGOINGS. Roedd yn creu antur synhwyraidd a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog, a’r staff sy’n gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi. Roedd y plant yn cael eu dilyn gan deigrod, yn cuddio eu hunain ymhlith creaduriaid rhyfedd ac yn rhyddhau’r anifail oddi mewn iddynt!
Roedd y prosiect ar y cyd yn adeiladu ar y gwaith a wnaeth Ysgol Crug Glas, Theatr Volcano a Grŵp Tai Coastal gyda’i gilydd rhwng 2014 a 2018 yn ystod y prosiect Stryd Fawr ‘O’r Orsaf i’r Môr’. Llawr canol warws hanesyddol Kings Lane, sydd wedi cael ei achub rhag mynd yn adfail gan Coastal fel rhan o’i gynllun Pentref Trefol, oedd lleoliad yr wythnos hon o antur, a gefnogwyd gan grant Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ysbrydolwyd BEASTLY ONGOINGS gan lyfrau lluniau Shaun Tan a syniadau’r pensaer Aldo Van Eyck. Mae Tan yn creu bydoedd dychmygus hyfryd sy’n llawn dop o anifeiliaid, lleoedd a gwrthrychau sy’n gyfarwydd ac yn ddieithr ar yr un pryd. Mae gwaith Aldo van Eyck yn gwerthfawrogi ymdeimlad o le ac achlysur ac yn ceisio creu mannau trefol ar gyfer pobl trwy ddyluniadau sy’n rhoi lle i chwarae a’r dychymyg.
BEASTLY ONGOINGS
Dychmygwyd gan Catherine Bennett a Clare Hobson
Ysbrydolwyd gan waith Shaun Tan ac Aldo van Eyck
Cyfarwyddwyd gan Catherine Bennett
Perfformiwyd gan Rick Yale a Catherine Bennett
Dyluniwyd gan Chris Faulds
Artist Sain Luke Turner
Gwneuthurwr Zepur Agopyan
Gosod Eifion Porter
Cefnogwyd Beastly Ongoings gan grant Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Darluniau ©Shaun Tan www.shauntan.net
Mae YSGOL CRUG GLAS yn ysgol arbennig â gweledigaeth, wedi’i lleoli yng nghanol dinas Abertawe. Nod yr ysgol yw creu cymuned fywiog, ofalgar a chynhwysol gydag ymdeimlad cryf o berthyn, lle mae anghenion a budd y disgyblion yn hollbwysig, a lle gall y tîm hyblyg o staff barhau i ddysgu a datblygu’n broffesiynol er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau i’w disgyblion ddysgu a ffynnu.