Am yr eilwaith yn ei hanes, ail-ddyfeisiodd Volcano drasiedi huawdl, llawn digwydd Shakespeare; y tro hwn gyda chenhedlaeth newydd o berfformwyr rhagorol.
“Mae’r enw Volcano yn gweddu i’r dim. Mae drama’r cwmni o Abertawe am laddwr cyfresol yn chwalu pedwaredd wal y theatr […] gan symud i mewn ac allan o sgript Shakespeare mewn noson o sŵn a chynddaredd, sy’n llawn arwyddocâd.”
Dyma gyflwyniad gwefreiddiol, anhraddodiadol o waith Shakespeare, gyda pherfformiadau grymus, gwaith dylunio trawiadol ac ambell i syrpréis synhwyraidd! Symleiddiwyd y digwyddiadau a’r cymeriadau er mwyn canolbwyntio ar ddeinameg y cwpl llofruddiog, gan ddilyn trywydd eu bwriad i ladd, datblygiad y poen meddwl a’r clymau’n chwalu yn erbyn cefndir o bleser nwydus lle mae trais wedi dod yn beth arferol. Mae’r cefndir yn gorwedd yn anesmwyth rhwng y brenhinol a’r domestig, gan amlygu cieidd-dra llym wrth wraidd ymhoniadau bonheddig pŵer personol a gwleidyddol. Gallwch ddisgwyl Macbeth bywiog a chwareus gyda hiwmor bras ac emosiwn bygythiol dan yr wyneb. Mae’r cynhyrchiad hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y ddrama ei hun ac mewn technegau perfformio cyfoes.