BEASTLY ONGOINGS

Cydweithio Creadigol gydag Ysgol Crug Glas

BEASTLY ONGOINGS

Prosiect cyffrous a oedd yn dwyn ynghyd tri sefydliad gwahanol iawn ond yr un mor ddynamig yng nghanol Stryd Fawr Abertawe oedd BEASTLY ONGOINGS. Roedd yn creu antur synhwyraidd a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog, a’r staff sy’n gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi. Roedd y plant yn cael eu dilyn gan deigrod, yn cuddio eu hunain ymhlith creaduriaid rhyfedd ac yn rhyddhau’r anifail oddi mewn iddynt!

Roedd y prosiect ar y cyd yn adeiladu ar y gwaith a wnaeth Ysgol Crug Glas, Theatr Volcano a Grŵp Tai Coastal gyda’i gilydd rhwng 2014 a 2018 yn ystod y prosiect Stryd Fawr ‘O’r Orsaf i’r Môr’. Llawr canol warws hanesyddol Kings Lane, sydd wedi cael ei achub rhag mynd yn adfail gan Coastal fel rhan o’i gynllun Pentref Trefol, oedd lleoliad yr wythnos hon o antur, a gefnogwyd gan grant Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ysbrydolwyd BEASTLY ONGOINGS gan lyfrau lluniau Shaun Tan a syniadau’r pensaer Aldo Van Eyck. Mae Tan yn creu bydoedd dychmygus hyfryd sy’n llawn dop o anifeiliaid, lleoedd a gwrthrychau sy’n gyfarwydd ac yn ddieithr ar yr un pryd. Mae  gwaith Aldo van Eyck yn gwerthfawrogi ymdeimlad o le ac achlysur ac yn ceisio creu mannau trefol ar gyfer pobl trwy ddyluniadau sy’n rhoi lle i chwarae a’r dychymyg.

BEASTLY ONGOINGS

Dychmygwyd gan Catherine Bennett a Clare Hobson

Ysbrydolwyd gan waith Shaun Tan ac Aldo van Eyck

Cyfarwyddwyd gan Catherine Bennett

Perfformiwyd gan Rick Yale a Catherine Bennett

Dyluniwyd gan Chris Faulds

Artist Sain Luke Turner

Gwneuthurwr Zepur Agopyan

Gosod Eifion Porter

Cefnogwyd Beastly Ongoings gan grant Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Darluniau ©Shaun Tan  www.shauntan.net

Mae YSGOL CRUG GLAS yn ysgol arbennig â gweledigaeth, wedi’i lleoli yng nghanol dinas Abertawe. Nod yr ysgol yw creu cymuned fywiog, ofalgar a chynhwysol gydag ymdeimlad cryf o berthyn, lle mae anghenion a budd y disgyblion yn hollbwysig, a lle gall y tîm hyblyg o staff barhau i ddysgu a datblygu’n broffesiynol er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau i’w disgyblion ddysgu a ffynnu.

Beastly Ongoing hug
Beastly Ongoing dance
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education