Polisi Iaith Gymraeg
Cyflwyniad
Nod Volcano yw gwneud yr oes bresennol yn un ddiffiniol o ran perthynas y cwmni â’r Gymraeg a’i alluoedd o fewn y Gymraeg. Fel cwmni bach sydd â hanes Eingl yn bennaf, mae ein perfformiad yn hyn o beth wedi bod yn ansefydlog yn hanesyddol ac weithiau’n adweithiol – sefyllfa sy’n cyd-fynd â’n harweinyddiaeth, ein gwaith a’n creadigrwydd ym mhob maes arall. Mae arallgyfeirio gweithgareddau’r cwmni a’r datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn statws y Gymraeg yn galw am fwy ohonom os yw’r cwmni am barhau i fod yn arweinydd diwylliannol mewn cenedl ddwyieithog fodern ac yn llysgennad radical i’r genedl honno yn y DU, Ewrop a thu hwnt.
Yn 2017/18 gwnaethom weithredu newid bwriadol mewn polisi ac ymarfer, gyda chyfrifoldeb am statws y Gymraeg o fewn y cwmni bellach yn cael ei ddal yn benodol gan uwch staff craidd ac artistiaid sydd â swyddogaethau sy’n rhychwantu gweledigaeth, strategaeth a darpariaeth, ac ymrwymiad i wella cymwyseddau mewnol yn y Gymraeg ym mhob maes.
Fframwaith Cyfreithiol, Polisi a Strategol
Mae’r polisi hwn yn nodi ymrwymiad Volcano i hyrwyddo amcanion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg 2011 a rhannau perthnasol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Mae Volcano yn cefnogi’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac y dylai dinasyddion Cymru allu manteisio ar yr ystod lawn o brofiadau a gwasanaethau diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn cymeradwyo’r achos artistig dros ddarpariaeth gyfartal, a manteision artistiaid Cymraeg eu hiaith i fod yn rhydd i weithio yn eu dewis nhw o iaith.
Mae Volcano hefyd yn cydnabod y Contract Diwylliannol – cyfrifoldeb sefydliadau sy’n cael arian cyhoeddus i fynd i’r afael â rhwystrau i fynediad a chyfranogiad a sicrhau bod gweithgareddau diwylliannol yn cyrraedd pob dinesydd yng Nghymru ac yn hygyrch iddynt.
Mae ymrwymiad Volcano i’r Gymraeg wedi’i gofrestru yn un o saith Blaenoriaeth Strategol y cwmni, sy’n llywio ein holl waith cynllunio busnes:
CYNRYCHIOLI CYMRU
- Datblygu capasiti dilys dwyieithog ar bob lefel o’r sefydliad.
- Bod yn llysgennad diwylliannol i Gymru ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, drwy arfer artistig a deialog.
Er mwyn gweithredu’r polisi uchod, mae’r cwmni’n gweithredu Cynllun Gweithredu iaith Gymraeg sy’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol ac sydd ar gael ar gais.