Cefndir ein Tîm
Cyfarwyddwr Artistig Mae Paul yn gyfarwyddwr, perfformiwr, trefnydd byrfyfyrio ac ysgrifennwr sy’n meddu ar ddoethuriaeth mewn Gwleidyddiaeth a gwregys du mewn karate. Mae’n hyfforddwr pêl-droed ac mae’n berchen ar randir. Mae’n aelod sefydlu theatr Volcano. Ef yw’r unig Gyfarwyddwr Artistig ers 2013. Yn 2018, dyfarnwyd Doethuriaeth Anrhydeddus o’r Brifysgol Agored iddo am Wasanaethau i’r Celfyddydau. Mae Paul yn cyfuno rhyfeddod diflino â syniadau gyda gwreiddioldeb a natur fentrus sy’n gallu cynhyrchu theatr syfrdanol na ellid fod wedi’i wneud gan unrhyw un arall. Mae wedi perfformio mewn sawl sioe gan Volcano, ysgrifennu tair drama i’r cwmni ac wedi cyfarwyddo, cyd-gyfarwyddo neu greu y rhan fwyaf o gynyrchiadau’r cwmni. Mae wedi cyfarwyddo gwaith yn Montreal a Croatia ac wedi addysgu mewn sawl academi ar draws y byd. Yn 2018, bu iddo addysgu yng Ngŵyl Ryngwladol ‘Territory’ ym Moscow. Mae’r gwaith y mae wedi’i gyfarwyddo i Volcano dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Hamletmachine, The Populars, Seagulls, Black Stuff, A Clockwork Orange, Blinda ac Alice in Wonderland. Mae gan Paul ddiddordeb mewn creadigrwydd mewn addysg a throsglwyddo gwybodaeth a gweithredu mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol. Yn ogystal, mae ganddo ddiddordeb mewn safle’r celfyddydau mewn dinasoedd mewnol a’r ffordd mae rhaglenni diwylliannol yn rhyngweithio gyda dynameg adfywiad a chyfalafiaeth hwyr. Mae Paul hefyd yn rhedeg Cwmni Ieuenctid Volcano i unigolion yn eu harddegau ac oedolion ifanc yn ne Cymru.
Cyfarwyddwr Symudiadau Ymunodd Claudine â Volcano yn 2000, yn rhan-amser i ddechrau wrth iddi addysgu (a cheisio astudio am ddoethuriaeth) ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Meddiannodd y swydd ei bywyd ac yn y pendraw, gweithiodd yn llawn amser. Ni orffennodd y ddoethuriaeth. A hithau’n wreiddiol o gornel dywyll yn ne Lloegr, symudodd Claudine i Gymru yn 1991 i ddianc o’r Siroedd Cartref ac i astudio yn Aberystwyth, lle enillodd radd mewn Saesneg ac MA Rhyngddisgyblaethol mewn Astudiaethau’r Ddeunawfed Ganrif. Gweithiodd mewn sawl bar a bu’n marchnata Gŵyl Jazz Aberystwyth. Ar ôl aros yn Surrey am flwyddyn gron fel stiward Clwb Gweithwyr, dychwelodd i Gymru ac ymgartrefu yn Abertawe yn 1997, yn gwneud mwy o astudio a gweithio mewn bar cyn iddi ddod ar draws Volcano. Mae Claudine yn beicio er pleser a phwrpas a gwasanaethodd fel Cadeirydd CTC Cymru (Cycling UK bellach) yn 2012-13. Mae hi’n chwarae pêl droed mewn cynghrair achlysurol i ferched de Cymru. Mae hi wrthi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.
Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata Ymunodd Victoria â’r cwmni fel Swyddog Cyfryngau a Marchnata yn 2017 ar ôl gweld Macbeth, V, a Medea Sex War gan Volcano bron i ddeng mlynedd ar hugain ynghynt pan oedd yn fyfyrwraig Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Hyd heddiw mae hi’n cofio prynu crys-t ‘Volcano’ a hynny’n un o’r pethau mwyaf cŵl iddi ei wneud yn fyfyrwraig. Ganwyd Victoria yn Swydd Wiltshire a chafodd ei haddysg mewn tref fechan yn Lloegr (Warminster) a thref fechan yng Nghymru (Brynmawr). Wedi iddi ennill ei gradd mewn Gwleidyddiaeth, aeth ymlaen i ennill MSc mewn Cysylltiadau Rhyngwladol o Fryste ac wrth iddi astudio i fod yn gyfreithiwr fe ddioddefodd strôc. Mae hi bellach yn ystyried yr anffawd feddygol hon fel tipyn o lwc gan iddi ddechrau turio coed fel therapi. Ymhen rhai blynyddoedd fe’i pleidleisiwyd hi fel un o’r turnwyr coed artistig gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi gwerthu ei gwaith yn siop Oriel Amgueddfa Victoria ac Albert, Linley’s ac orielau eraill mor bell â Scottsdale, Arizona. Ar ôl iddi symud i ynys Alonissos yng Ngwlad Groeg, daeth yn dywyswr natur ac yna’n athrawes Saesneg fel Iaith Dramor. Wedi sawl blwyddyn yng Ngwlad Groeg, gadawodd Kalamata i addysgu yn Ne Corea ac yna i HaNoi yn Fietnam lle cafodd ragor o hyfforddiant ac ymgymerodd ag arholiadau Cambridge Delta. Ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, parhaodd Victoria â’i gwaith yn addysgu ac yna fel Rheolwr Academaidd ysgol iaith yn Bournemouth. Bu’n gweithio’n hunangyflogedig fel awdur llyfrau gramadeg a deunyddiau addysgu Saesneg ar ôl dychwelyd i Abertawe. Yn ogystal, bu’n paratoi deunyddiau marchnata digidol i sawl busnes addysgu iaith. Pan oedd yng nghanol cwrs Celf Sylfaenol yng Ngholeg Gŵyr, gwelodd hysbysiad ar Facebook ar gyfer swydd gyda Theatr Volcano. Gyda sŵn Requiem gan Killing Joke yn uchel yn ei chlustiau, meddyliodd y byddai’n rhoi cynnig arni. Mae Victoria yn gôl geidwad i Glwb Pêl-droed Merched Penarth ac mae ganddi docyn tymor gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe. Mae hi’n hoff iawn o arddio, heicio a chreu prosiectau. Mae hi wrthi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.