BLACK STUFF

Glo. Celf. Gwleidyddiaeth.

BLACK STUFF

Perfformiwyd BLACK STUFF yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, yn y  Biscuit Factory ar y cyd gyda Forest Fringe, 14 – 28 Awst 2015. 

Sioe bromenâd ydy Black Stuff am fywydau a dychymyg wedi’u llunio gan gloddio am lo. Antur danddaearol mewn adeilad wedi’i drawsnewid gan lo, tân, chwys ac offer peiriannau.

Yn afreal, doniol a thrawiadol: mae Black Stuff yn archwiliad disentiment o fywyd, celf, glo a gwleidyddiaeth gan gwmni perfformio mwyaf cyson arloesol yng Nghymru. Gyda difodiant ein diwydiannau trwm a gyda blas chwerw yn parhau yn y geg ddeng mlynedd ar hugain ar ôl streic y glowyr, dydyn nid ddim yn fodlon cael ein hanghofio neu ddawnsio ein gofalon i ffwrdd.

Cyfarwyddwr: Paul Davies
Cyfarwyddwraig Symudiadau: Catherine Bennett
Dylunio: Lizzie French a Cadi Lane
Perfformwyr: Rhys McLellan; Neal McWilliams; Barbara Sarmiento Araña; Robin Willingham
Rheolwr Cynhyrchu: John Kirk
Rheolwr Llwyfan Ymarferion: Fiona McCulloch
Diolch i Betty Rae Watkins, Sarah Pace a Josef Herman Art Foundation Cymru

"A reflection on the coal industry that shaped South Wales, staged on a warehouse floor half covered in a thick, jagged layer of anthracite – seemed like a flashback to a Richard Demarco event of the early 1990s, all vivid splashes of red against black in a dim, dramatically-lit found space, fascinating in its determination to recall the range of international links and migrations fuelled by the coal industry."

"Irresistible black seam of Welsh energy shovelled into audiences' jaw-dropped gobs by anarchic sons+daughters of Thatchers ghost."

Dechreuodd y cynhyrchiad hwn pan gyrhaeddodd Betty Rae Watkins ein gofod gyda llwyth o lawysgrifau a ysgrifenwyd gan ei hewythr, Dai Alexander. Daliodd The Hangman’s Assistant, a ysgrifenwyd ym 1946 ac a gyhoeddwyd mewn nifer o gasgliadau o ryddiaith Cymreig, fy sylw. Dim ond pedair tudalen o hyd ydy’r gwaith ac mae’n dechrau mewn dull rhagweladwy, ond yna mae’n gwyro mewn dull cwbl annisgwyliadwy o swreliaeth a braw. Yna cefais fy nghyflwyno gan Dai Cymreig arall (mwy adnabyddus) i “Treherbert Tarzan” Ron Berry, a daeth Black Stuff i’r golwg. Efallai y byddwch yn gweld y sioe yn anneglur, yn swnllyd a brwnt, ond yn fy marn i mae gan y Gymru gyfoes ddigon o farddoniaeth a thrueni i bara am byth. Rydym angen dulliau eraill o ddisgrifio ein hatgofion a’n dyfodol. PAUL DAVIES, HYDREF 2014

Blackstuff2
Blackstuff3
Blackstuff1
Blackstuff4
Blackstuff4
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education