Mae 147 Questions about Love yn ddeialog cynnes, doniol rhwng dyn, menyw a chynulleidfa sy’n gwneud i chi feddwl.
Ydy eich emosiynau yn bur? Ydy eich nerfau yn addasiadwy? Sut ydych chi’n sefyll mewn perthynas â’r daten? Oedd eich tad yn fastard pur, yn fastard cymhedrol neu yn fymryn o fastard? Ydy’r holl gwestiynau yma yn rhyfeddol, yn ddigywilydd neu yn gwbl amhosibl? Mae 147 Questions about Love yn dod â chi’n agos at, ac yn bersonol gyda deuawd annarferol a thyner, yn seiliedig ar nofel sy’n llawn cwestiynau. Mae’n ymwneud â’n diddordeb yn ein gilydd, ein hymdrechion i fynegi ein hunain ac ansicrwydd cyfathrebu. Efallai bod yr holl atebion gennych chi, neu efallai mai’r unig beth a lwyddwn i’w wneud fydd gwneud i chi ofyn rhagor o gwestiynau. …
Mae 147 Questions yn ddarn siambr sydd yn addas i leoliadau sydd yn dymuno rhaglennu perfformiadau gwreiddiol, cofiadwy, arloesol sy’n defnyddio gofod theatr gyda dychymyg i gysylltu gyda chynulleidfaoedd. Fe’i dyfeisiwyd gan Paul Davies a Catherine Bennett mewn ymateb i’r nofel The Interrogative Mood. Paul ydy Cyfarwyddwr Artistig Volcano, ac mae’n berfformiwr, cyfarwyddwr ac awdur sy’n wybyddus am gynhyrchu theatr gwreiddiol a beiddgar ers 25 mlynedd. Mae Catherine yn ddawnswraig, yn goreograffydd ac yn gyfarwyddwraig symud sydd wedi gweithio gyda Siobhan Davies a Random Dance ac mae wedi creu’r coreograffi i nifer o sioeau diweddar mwyaf cofiadwy Volcano.
Volcano Theatre
27 – 29 High Street
Swansea SA1 1LG
Tel:+44 (0) 1792 464790
mail@volcanotheatre.co.uk
Tuesday – Saturday
10:00 am – 17:00 pm
Sunday – Monday – Closed