I-WITNESS

I-WITNESS

Ysbrydolwyd gan The Rings of Saturn gan WG Sebald

I-WITNESS

Ysbrydolwyd gan The Rings of Saturn gan WG Sebald

A ydych erioed wedi darllen llyfr a newidiodd eich bywyd?

Un diwrnod, yn ystod gwanwyn 2007, daethom ar draws lyfr hynod. Daeth yn obsesiwn gennym, mewn gwahanol ffyrdd, am fisoedd i ddilyn. Gwnaethom brynu chwech neu saith copi o’r llyfr a mynnu bod ein ffrindiau’n ei ddarllen. Fe wnaeth rhai ohonynt, gan ymuno â ni yn ein hobsesiwn. Gwnaethom ei bostio at bobl yr oeddem yn eu hadnabod, a daeth y rheiny i’r casgliad ein bod ni’n wallgof. Gwnaethom golli ein copïau ein hunain ac amau ein gilydd o’u dwyn. Daeth gwrthrychau anarferol yn bethau diddorol tu hwnt i ni, roeddem yn teimlo awydd i fynd am dro hir ac yn gweld arwyddocâd anferthol yn y pethau lleiaf.

Y llyfr dan sylw oedd The Rings of Saturn gan WG Sebald. Stori ydyw am ddyn a aeth am dro. Nid yr union stori honno a geir yn ein sioe ni. Bydd ein sioe ni’n adrodd straeon pump o bobl sy’n gweld y byd yn wahanol ers iddynt ddarllen y llyfr, unigolion sy’n profi’r byd drwy ei dudalennau. Stori am ein hobsesiwn ni yw i-witness.

Mae Catherine yn hynod frwdfrydig ynghylch pethau nad yw neb yn sylwi arnynt.

Mae Paul yn chwarae cerddoriaeth er mwyn cadw’r distawrwydd draw.

Nid yw Philip wedi bod yn cysgu’n dda ers iddo ei ddarllen.

Mae rhythm cerdded diderfyn yn hypnoteiddio Fern.

Dewch i gwrdd â’n pumawd anniddig wrth iddynt geisio’ch adlonni, perswadio, rhyfeddu ac ysgwyd gyda chwilfrydedd, darganfyddiadau a pherfformiadau. Maent wedi’u meddiannu gan y gorffennol, ar goll yn y presennol, ac yn ofni’r dyfodol. Efallai y byddant yn ceisio’ch drysu gyda phosau [a drrychau], ceisio gwneud ichi chwerthin, neu’n ceisio’ch synnu gyda’u gonestrwydd. Maent yn eich gwahodd i chwerthin am eu pennau, wylo gyda nhw, gofyn beth ar y ddaear maent yn meddwl eu bod yn ei wneud, a gweld y byd mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r arfer.

 

“Ym mis Awst 1992, a dyddiau’r cŵn yn tynnu at eu terfyn, fe es am dro yn swydd Suffolk…”

Mae i-witness yn mynd â chi ar daith sy’n cychwyn yn ôl-traed adroddwr Sebald.

Dywedodd y cyn Aelod Seneddol, Chris Smith, sydd bellach yn llywydd Cymdeithas y Cerddwyr, fod mynd am dro hir yn hwyl yn hytrach na rhywbeth i godi ofn arnoch. Go iawn? Byddwn yn anfon copi o The Rings of Saturn ato.

Mae Sebald yn wyliwr brwd ac mae ganddo feddylfryd melancolaidd. Dydy e ddim yn un am “hwyl”, a dweud y gwir. Ond mae e’n un am wneud cysylltiadau. Gan ddefnyddio hanes, y cof a chysylltiadau, mae’n darganfod nad oes lle na gwrthrych na fydd yn ein harwain i rywle arall. Cawn ein cludo o drefi glân môr yn Lloegr sy’n prysur golli eu hurddas, ac ymhen dim rydym yng Nghongo Gwlad Belg neu yn nhai sidan Ymerodres Dsieineaidd. Mae cyfaredd egsotig a manylder moethus teithiau meddyliol Sebald yn cael eu difetha gan y creulondeb hamddenol ac endemig sydd bob amser gerllaw neu fymryn o dan yr wyneb. Mae erchyllterau ffiaidd a hynodbethau anarferol yn perthyn i’w gilydd yn yr un naws dideimlad, gyda’r effaith ryfedd fod y darn hwn o ryddiaith wrthrychol a gwybodus yn orlawn o drais. Er bod ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes, nid yw Sebald yn sôn yn uniongyrchol am yr Holocost. Nid oes angen iddo – mae’n bresennol ym mhobman drwy awgrymiadau a chyfatebiaethau.

Nid cerdded, na Suffolk, na’r hyn a wnaeth yr Ewropeaid yn y Congo sydd dan sylw yn y sioe hon go iawn. Cysylltiadau ac olion sydd dan sylw, a dod o hyd i harddwch pan fo dinistr yn bygwth parlysu a mygu. Rydym wedi paratoi ein teithiau ein hunain – i archwilio drosom ein hunain a gwneud ein cysylltiadau ein hunain. Mae pob person yn y sioe wedi ymateb yn wahanol i’r llyfr unigryw hwn, ac i-witness yw’r ddeialog rhyngddynt. Mae’n sioe sy’n dangos pa mor bwerus yw’r effaith y gall rhai llyfrau ei chael arnom.

i-witness
i-witness
i-witness
i-witness

Ysbrydolwyd i–witness gan waith WG Sebald, yn arbennig The Rings of Saturn (Vintage, 2002) a gyfieithwyd gan Michael Hulse.

Cast: Catherine Bennett; Paul Davies; Philip Ralph; Fern Smith.
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: John Hardwick
Dyluniad gan Gerald Tyler
Cyfarwyddwr ffotograffiaeth: Lucy Cash

Lluniau gan Jonathan Littlejohn and Erich Talbot

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education