Daeth National Theatre Wales, Volcano ac Opera Cenedlaethol Cymru ynghyd i gydweithio â thîm o artistiaid o fri rhyngwladol i greu profiad amlsynhwyraidd unigryw.
Cafwyd digwyddiadau annisgwyl a rhyfedd, llyfrgellwyr yn canu, dawnswyr rhyfeddol, ac ychydig mwy o sŵn a tharfu na’r hyn a ganiateir fel arfer. Roedd Shelf Life yn antur theatraidd ragorol, yn archwilio adeilad hudolus, pwysig yn hanes Abertawe. Taith drwy gowrt allanol, staciau labyrinthaidd ac ystafell ddarllen gron yr Hen Lyfrgell ar Heol Alexandra. Agorwyd y llyfrgell ym 1887 gan y cyn (a darpar) Brif Weinidog William Gladstone. Fe gaeodd yn 2007 – achlysur na dderbyniodd fawr o sylw. Am fwy na 100 mlynedd bu’n stordy o wybodaeth. Ffeithiol a ffuglen; clecs a doethineb – roedd y cyfan yn cael ei gasglu yma. Bu hyd yn oed yn gartref i gyrff rhai a fu farw yn y blitz. Roedd pob math o bethau i’w cael yn y llyfrgell.
Erbyn hyn, mae’r llyfrau olaf wedi cael eu symud ymaith ac mae’r drysau ar gau i’r cyhoedd. Fel ysbrydion, rydym yn pori drwy’r llyfrau ar y silffoedd unwaith eto, a hyd yn oed yn busnesa mewn mannau na châi neb heblaw’r llyfrgellwyr fynd iddynt ar un adeg.