THE SHAPE OF THINGS TO COME 2026: Y FFENESTR
Chwe sioe unigol newydd sbon, wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer y ffenestr yn Volcano.
24 MEDI – 31 HYDREF 2026
TIAGO GAMBOGI
Window Cleaner of the Apocalypse
Iau 24 – Sadwrn 26 Medi
Mae’r byd wedi dod i ben, ac eto mae glanhawr sy’n fewnfudwr yn cyrraedd bob dydd i sgleinio ffenestri’r oriel. Yn arfog â bwcedi, poteli chwistrellu, rhythmau samba ac optimistiaeth ddiderfyn, mae’n ceisio cynnal harddwch yn wyneb dinistr. 
RUFUS MUFASA
Tocyn Iaith
Iau 01 – Sadwrn 03 Hydref
Mae Tocyn Iaith yn sioe ddwyieithog wedi’i osod mewn Cymru’r dyfodol, lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei rheoleiddio a’i rheoli’n llym gan sefydliadau swyddogol ac nad yw bellach yn perthyn i gymunedau. Bydd angen tocyn dilys arnoch i’w defnyddio. Yn ffodus, rydych chi wedi cyrraedd yr adran gywir… 
RACHEL HELENA WALSH
The Swansea Scores
Iau 08 – Sadwrn 10 Hydref
Mae Rachel yn perfformio set o sgoriau gwreiddiol Fluxus a grëwyd yn arbennig ar gyfer Y Ffenest. Mae Fluxus yn fudiad rhyngwladol rhydd yn erbyn celf sy’n ymroddedig i ddemocrateiddio’r dulliau creu trwy amrywiol brosesau DIY, gan gynnwys cynhyrchu “sgoriau” neu gyfarwyddiadau syml i’w dehongli’n fyw gan berfformwyr neu gynulleidfaoedd. 
SAHANA ATHREYA
Monday Morning at Machine Mart
Iau 15 – Sadwrn 17 Hydref
Mewn darn a ysbrydolwyd gan gyfarfyddiad mewn siop nwyddau technolegol yng nghanol awyrgylch bywiog City Road yng Nghaerdydd, mae Sahana Athreya yn rhoi cipolwg ar fywyd trefol bob dydd ar stryd fawr yr unfed ganrif ar hugain, gan archwilio’r cysylltiad rhwng mudo, newid hinsawdd a bywyd economaidd drwy ryngweithiadau cyffredin sy’n ymwneud â nwyddau defnyddwyr rhad.
GEORGIA GRIFFITHS
The Last Place Left
Iau 22 – Sadwrn 24 Hydref
Mewn cymdeithas yn y dyfodol agos lle mae cyfeillgarwch yn seiliedig ar danysgrifiadau, mae sylw’n cael ei foneteiddio fwyfwy, ac mae cymuned yn pylu – rydych chi’n rhan o grŵp bach sy’n cael ei dderbyn i The Last Place Left, archif danddaearol sy’n cadw gweddillion olaf cysylltiad dynol…
ANGHARAD MATTHEWS
If You Had Wings
Iau 29 – Sadwrn 31 Hydref
Pe bai gennych chi adenydd, beth fyddech chi’n ei wneud i newid y dyfodol? Wedi’i hysbrydoli gan ffilm Wim Wenders, Wings of Desire, mae angel yn ymddangos o blith rwbel Stryd Fawr yn y dyfodol sydd wedi’i difrodi gan ryfel; dyma le lle bu’n gwrando ar feddyliau’r trigolion ac yn eu cysuro yn eu trallod ar un adeg. 