Waterfall banner

Gweithiodd Cyfarwyddwr Artistig Volcano, Paul Davies, gyda chyfranogwyr yr Ŵyl Reside o Brasil dros bythefnos ym mis Mawrth, ar gyfnod hyfforddi digidol o’r enw Which Way to the Waterfall.

Yn wreiddiol, roedd Paul i fod i deithio i Recife, yn nhalaith gogledd-ddwyreiniol Pernambuco, i arwain rhaglen breswyl, ond o ganlyniad i COVID-19 gweithiodd yn hytrach gyda chyfieithwyr Portiwgaleg ac iaith arwyddion, gan ddefnyddio nifer o blatfformau ar-lein, i sicrhau bod y cyfnod hyfforddi’n parhau ar-lein.

Mae’r Cyfnod Preswyl yn rhan o raglen ‘Bridges’ Oi Futuro – Cyngor Prydain, partneriaeth ddigynsail rhwng y ddau sefydliad, sydd â’r nod o gynnig dewisiadau amgen newydd i hyrwyddo gwyliau Brasil ac i hyrwyddo cynnyrch artistig y DU ym Mrasil.

Crëwyd bron i gant o fideos gan gyfranogwyr ar bynciau mor amrywiol â synau Bolsonaro, y dramodydd Nelson Rodrigues, ymddangosiad y cof ac ystyr y gofodau preifat rydym bellach yn eu meddiannu.Gellir gweld fideo terfynol yn cyfuno detholiad o fideos YMA

Fideos byrion unigol

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education