Fel rhan o ddathliadau pen blwydd y cwmni yn 25 oed, ailgreodd VOLCANO L.O.V.E. llwyfaniad anhygoel Nigel Charnock o sonedau Shakespeare, gyda chenhedlaeth newydd o berfformwyr ar gyfer 2012 a thu hwnt.
Mae L.O.V.E. yn dirnod theatrig – clasur pwerus ac athletig oedd yn helpu i ddiffinio’r term ‘theatr corfforol’. Roedd y L.O.V.E. gwreiddiol, oedd yn dwyn ynghyd Paul Davies a Fern Smith Volcano gyda Nigel Charnock DV8 a dylunio mawreddog, cyfoethog Andrew Jones, yn cynrycholi cydweithrediad hanesyddol rhai o arloewyr amlwg theatr corfforol Prydeinig yn y 90au. Mae egni, angerdd crai, iaith gyfoethog a dylunio trawiadol y sioe yn ei gwneud yn un o weithiau mwyaf cofiadwy Volcano.
Cynhyrchwyd L.O.V.E. yn wreiddiol ym 1992, ac ennillodd Wobr Theatr Time Out 1993. Aethpwyd â’r sioe i Ŵyl Grec yn Barcelona, Wiener Festwochen, a’r Ŵyl Theatr Ryngwladol gyntaf yn Buenos Aires. Mae hefyd wedi bod yn yr Almaen, Sbaen, yr Eidal, Rwsia, Iseldiroedd, Norwy, Serbia a Brasil. Adfywiwyd L.O.V.E. ym Mehefin 2003 ac aeth ar daith i Georgia, Armenia ac Azerbaijan.
Mae L.O.V.E. yn seiliedig ar y fersiwn gwreiddiol, gyda choreograffi ac wedi’i chyfarwyddo gan Nigel Charnock.