2020 American Presidential Election

USA election

Retracing the 2020 American Presidential Election Campaign

Dydd 19 Tach

Ymunwch â ni ar gyfer golwg ôl-weithredol (ar-lein) ryngweithiol ar ddigwyddiadau a manylion Ymgyrch Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau 2020. Gan adeiladu ar gyfres o bodlediadau’n ymdrin â’r ymgyrch, byddwn yn dadansoddi’r eiliadau a’r storïau a lywiodd yr ymgyrch gydag arbenigwyr Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau. Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa, yn ogystal ag arddangosiadau dramatig i ail-greu eiliadau pwysig yn ystod yr ymgyrch ac arolwg Kahoot ar y cam nesaf yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.

COFRESTRU

Dan arweiniad: Dr Matthew Wall, uwch-ddarlithydd / Athro Cyswllt Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac arbenigwr mewn dynameg ymgyrchoedd. Dr Richard Thomas (Uwch-ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu) a Dr Allaina Kilby (Darlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu)

Mewn partneriaeth ag: Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe; Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu; Theatr Volcano; Ladbrokes/Coral betting sy’n darparu data’r ods.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ŵyl Bod yn Ddynol, sef yr unig ŵyl genedlaethol ym maes y Dyniaethau yn y DU, a gynhelir rhwng 12 a 22 Tachwedd. Fe’i harweinir gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.beinghumanfestival.org.

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education