A CLOCKWORK ORANGE

"What's it going to be, then, eh?"

A CLOCKWORK ORANGE

Cyhoeddwyd A Clockwork Orange dros hanner canrif yn ôl, ond mae ei bortread o wladwriaeth lwgr, cymdeithas sifil heb foesau a phoblogaeth yn ofni ieuenctid ymosodol yn ymddangos yn gyfarwydd iawn. Mewn byd fel hyn, sut mae pobl ifanc y genedl i fod i ymddwyn? O leiaf mae yna lawer o bleser i’w gael mewn bod yn dreisgar, meddw, ar gyffuriau a llygredig.

Mae Volcano yn mynd i’r afael â champwaith dyfeisgar Burgess gyda sgil coreoraffig a gormodedd ieithyddol. Darn bach annymunol neu archwiliad dwfn o bwer y wladwriaeth a rhyddid ewyllys? Mae’r cynhyrchiad yma, sydd wedi’i ddylunio’n hyfryd a pherfformiadau eithriadol, yn cadw at wreiddiol Burgess gyda’i ddyfeisgarwch creulon a’i  bwyslais ar y cwestiwn, ydy hi’n well cael eich gorfodi i fod yn dda neu yn rhydd i greu drygioni.

clockwork orange
clockwork orange
clockwork orange
clockwork orange1

Clockwork Orange gan Volcano

Mae A Clockwork Orange ymysg pethau eraill yn nofel (ac yn sioe) ynghylch dewis “What I do,” meddai Alex, “I do because I like to do”.

Efallai nad ydych wedi darllen y llyfr. Efallai nad ydych wedi gweld addasiad ffilm Kubrick ym 1971, ond maen annhebygol eich bod wedi dianc rhag gyrhaeddiad ei eiconograffi. Mae’n deg dweud mai Clockwork Orange Kubrick sydd yn dal y dychymyg poblogaidd. Mae Clockwork Orange Volcano yn anghenfil gwahanol. Mae’n cynnwys enw Anthony Burgess nid oherwydd ei fod yn atgynhyrchu’r nofel (na’r ddrama ddilynnol) mewn unrhyw synnwyr systematig, mecanyddol (na hyd yn oed glocwaith), ond oherwydd ei fod yn rhannu synnwyr Burgess o fusnes heb ei gwblhau. Doedd Burgess ddim yn ystyried y nofel yn un o’i oreuon, ac roedd yn gresynnu nad oedd wedi cael ei dileu o gof y byd. Ond yn dilyn dadleuon, atal a thynnu’n ôl, statws cwlt a chyhuddiadau o bornograffi ac anfoesoldeb, roedd yn parhau i deimlo bod A Clockwork Orange yn mynnu ymateb – roedd yn ei dal i gyfrif mewn math o sgwrs anfoddog, angenrheidiol. Dyma hefyd lle mae Volcano yn cychwyn.

Efallai bod A Clockwork Orange yn broblem, ond rydym yn hoffi   “little squib of a book” Burgess yn fwy nag y gwnaeth ef. Rydym yn hoffi’r dyfeisgarwch, ei ragoriaeth ieithyddol, ei awch cynhyrfus. Rydym yn hoffi ei gyflymdra a’i gynildeb, ei hiwmor a’i ddifrifoldeb. Mae cydweddu’r nodweddion hyn ar lwyfan yn un ffordd y mae addasiad Volcano yn ceisio cadw at wreiddiol Burgess.

Roedd Burgess yn arbennig o bryderus bod y ffilm wedi dilyn y fersiwn Americanaidd o’r nofel gan ddileu’r bennod olaf – diweddglo lle mae ein hadroddwr hyfryd ac annymunol yn dechrau blino ar drais ailadroddus ei weithgareddau ieuenctid ac yn edrych i’r dyfodol. Eallai ei fod yn gywir pan farnodd bod ‘gwers foesol’ y nofel ‘yn gwbl amlwg’, yn cyfaddawdu uchelgais artistig y llyfr, ond roedd Burgess yn teimlo nad oedd fawr o bwynt ysgrifennu nofel oedd yn darlunio cylch dibaid o drais adloniannol a gwladwriaethol yn unig heb gydnabod y posibiliadau ar gyfer newid a chymhlethdod ac mae Volcano yn rhannu ei frwdfrydedd dros drawsnewid. Ac yn yr ysbryd yma yr ydym yn mynd i’r afael â nofel Burgess, hanner can mlynedd ar ôl ei hysgrifennu – gan edrych ar ffyrdd o wneud synnwyr ohoni yn y presennol ar ôl popeth y mae wedi ei brofi.

Er ei holl arloesi a’i gwychder, mae nofel Burgess yn gadarnhad o egwyddor moesol sydd yn syml yn ei gywirdeb ac eto yn anghyfforddus yn ei ganlyniadau – ei bod yn well bod yn   “living organism, oozing with juice and sweetness” ac eto yn alluog o ddrygioni na bod yn fecanwaith heb ddewis, yn alluog i wneud daioni yn unig.

Mae A Clockwork Orange Volcano yn ceisio dal rhywfaint o’r “organism lovely with colour and juice” – y bod dynol gyda’r ewyllys rydd a’r gallu i newid yr oedd Burgess yn ei ddathlu.

“Eat this sweetish segment or spit it out. You are free.”

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education