1977

Cariad. Gwleidyddiaeth. Cerddoriaeth. Ffilm.

1977

1977

Mae’n 1977. Mae’r pedwar dyn a grëodd y sioe hon yn chwech, deuddeg, deunaw a naw ar hugain mlwydd oed. Blwyddyn pan herwgipiwyd toreth o awyrennau, a chyfnod prysur ar gyfer terfysgwyr Carfan y Fyddin Goch. Blwyddyn rhyddhau albymau dylanwadol y Sex Pistols a The Clash, a chyda Franco wedi mynd, anadlodd cyfundrefn ffasgaidd Sbaen ei hanadlau olaf Wrth gwrs, roedd rhyfel Fiet-nam drosodd, er mai megis dechrau oedd ei oblygiadau i ddiwylliant America a gwleidyddiaeth fyd-eang.

Mae 1977 Volcano yn dechrau ar set Apocalypse Now, Coppola. Wrth i Coppola, Sheen a’r criw fynd o’u cof yn y jyngl, awn â chi ar daith i ddigwyddiad hollol wahanol ar ochr arall y byd, lle mae cynhadledd yn ymgynnull i weld sut mae pethau mewn “canrif sy’n marw”. Ymysg y deallusion niferus, ceir dau unigolyn ifanc neilltuol iawn. Gwelwn eu bywydau a’u straeon yn datblygu, gyda chanlyniadau ysgytwol, yn erbyn y ddau gefndir, sef yr ystafelloedd cynadledda a’r ffilm.

1977

Mewn parti stryd lleol i ddathlu Jiwbilî Arian y Frenhines, mae JOHN, sy’n ddeuddeng mlwydd oed, yn eistedd yn ymyl y teisennau ac yn eu gwarchod yn ofalus iawn gyda Chewbacca pedair modfedd

a sgarff Everton wedi rhwygo. Mae ei frawd hŷn, Paul, yn gwisgo crys t Sex Pistols yn dangos llun y Frenhines yn gwisgo pin cau drwy ei thrwyn. Codi bawd wna ei dad ond caiff Paul glusten gan ei fam, sy’n ei orfodi i dynnu’r crys t.

 

Mae PETER, sy’n naw ar hugain mlwydd oed, yn rhoi’r ci adar gorau a gafodd erioed ar waith ar ystad yn Swydd Northampton.

 

Mae PHILIP, sy’n chwe blwydd oed, wrth ei fodd â Star Wars. Mae ei deulu’n mynd ag ef i weld Taith Jiwbilî Arian y Frenhines wrth iddi fynd heibio pen eu stryd. Mae’n codi ei law ar y car anghywir.

 

Mae PAUL, sy’n ddeunaw mlwydd oed, yn gweithio yng Ngwaith Dur East Moors. Mae’n cofio mynd i barti protest pync i wrthwynebu dathliadau’r Jiwbilî Arian.

Perfformiwyd 1977 am y tro cyntaf fel Dead Cat Bounce yng Nghymru yn 2009

1977
1977
1977
1977
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education