Mae Volcano yn angerddol am eu rôl yn addysg cenedlaethau’r dyfodol. Nid ydym yn credu fod gennym ddyletswydd i addysgu plant ac addysgwyr am sut i berfformio, ond yn bwysicach na hyn, rydym yn credu y gallwn ddysgu o’r ffordd mae plant yn arsylwi, rhyngweithio a chwarae yn y byd. Mae’r cysyniad o chwarae a byrfyfyrio yn elfennau datblygiadol allweddol o blentyndod iach. Efallai bydd y syniadau hyn yn fanteisiol i ni fel oedolion, ond yn sicr yn allweddol i’n synnwyr o sut all proses berfformiadol lwyddiannus edrych. Chwarae, pleser a byrfyfyrio yw’r hanfodion rydym yn adeiladu arnynt pan rydym yn addysgu neu ddyfeisio darn o theatr neu berfformiad.
Darperir gwaith addysgiadol Volcano gan y cyfarwyddwr artistig Paul Davies neu’r artist cyswllt, Catherine Bennett. Mae Paul yn cyflwyno gwaith sy’n canolbwyntio ar theatr, a Catherine ar symudiad, er bod y ddau yn croesi dros y naill a’r llall wrth ymarfer.
Mae’r gwaith diweddaraf gan bobl ifanc yn cynnwys: Our Heritages (gyda The Mighty New ac Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff – ar y gweill); GardensoftheFuture (prosiect digidol Brasilaidd); Looking Sideways | From the Future (ffilm); The Clockwork Crow; Ordered Chaos a Micropolis.
Yn ystod y blynyddoedd, rydym wedi gweithio gydag ystod o ysgolion a cholegau, ac wedi creu cyfres ar MOOCS ar-lein fel rhan o brosiect PolArt Circle.
Cysylltwch â ni i drafod gweithio gyda’ch ysgol neu sefydliad addysgiadol.