BLINDA
Antur synhwyraidd i gynulleidfaoedd...
BLINDA
Camwch oddi ar y stryd, i mewn i ystafell dywyll. Gallwch glywed rhywun yn anadlu. Efallai mai eich anadl eich hun ydyw. Gallwch synhwyro rhywbeth yn symud. Mae’r llawr o dan eich traed yn teimlo’n rhyfedd. Nid ydych ar eich pen eich hun.
Deialog rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr yw BLINDA. Mae eich symudiadau’n cael eu hadlewyrchu yn ôl atoch, ac yn atseinio mewn ffyrdd sy’n gyfarwydd ac yn ddieithr ar yr un pryd. Nid rhywun sy’n gwylio eraill yn oddefol ydych chi mwyach. Mae’r gwahaniaeth rhyngoch chi ac eraill yn pylu…
Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer BLINDA o nofel fer Dostoyevsky, The Double, lle mae dyn yn cerdded i lawr y stryd ac yn gweld rhywun sy’n edrych yn union yr un fath ag ef. O ganlyniad i hyn, mae ei fywyd yn newid am byth.
Rydym yn eich gwahodd i edrych mewn drych a cholli golwg arnoch chi’ch hun – diflannu. A phan ddychwelwch, efallai y bydd pethau wedi newid. Mae’r byd ychydig yn wahanol, ac mae anghenion dieithriaid yr un fath â’ch anghenion chi.
Crëwyd a chyfarwyddwyd: Paul Huw Davies
Dyluniad gan: Guðný Hrund Sigurðardóttir
Movement by Catherine Bennett
Cast:
Stephen DONNELLY
Donna MALES
Brent MORGAN
Rachel Helena WALSH
"Yn Blinda roeddwn i a Guðný eisiau creu amgylchedd lle gallai aelodau'r gynulleidfa ganfod eu hunain ac anghofio'u hunain. I wneud hyn rydym wedi creu ystafell dywyll. Gobeithiwn fod y syniad o hyn yn ennyn cyffro yn hytrach nag ofn. Rydym hefyd wedi creu man arall lle mae rôl bregusrwydd yn cael ei wrthdroi - mae'r actorion a'r gynulleidfa yn cynnig eu hunain, mae cyfnewid yn digwydd. Dyma Blinda... Deialog rhwng y gynulleidfa a'r perfformwyr yw Blinda. Ar y dechrau, byddwch chi fel cynulleidfa yn teimlo eich bod mewn sefyllfa anghyfarwydd. Rydych yn fregus, ond gallwch fwynhau'r bregusrwydd hwn, gallwch ganfod eich hun hyd yn oed mewn ystafell dywyll. A phan agorwch eich llygaid, efallai y gwelwch fod pethau wedi newid. Mae'r byd ychydig yn wahanol, ac mae anghenion dieithriaid yr un fath â'ch anghenion chi... Gwrthdroadwyedd a dyblu sydd dan sylw yn Blinda. Mae'n bosib ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan stori fer Kafka - The Double. Yn y stori honno, mae'r arwr yn cerdded i lawr y stryd ac yn gweld rhywun sy'n edrych yn union yr un fath ag ef. O ganlyniad i hyn, mae ei fywyd yn newid am byth. Rydym yn llai dramatig na Kafka. Serch hynny, rydym yn eich gwahodd i edrych mewn drych a sylweddoli na fyddwch, am amser byr, yn gweld eich hun. Ni fyddwch yn gweld dim. Byddwch wedi diflannu. Gall hyn fod yn destun llawenydd oherwydd, wedi'r cyfan, nid oes neb wedi diflasu arnoch fwy na chi'ch hun. Yn Blinda, mae gennych gyfle i newid. Syniad arall y gallai'r gynulleidfa ddod ar ei draws yn Blinda yw gwrthdroadwyedd - bydd yr hyd rydych chi'n ei wneud nawr yn cael ei wneud i chi yn y pen draw. Mae pob profiad yn plygu yn ôl i mewn atoch chi ac yn atseinio tuag allan ohonoch chi mewn ffyrdd anhygoel.
Paul Davies