ethos

Nid cyfres o ddatganiadau ynglŷn â’r pethau yr ydych eisoes yn ymwybodol ohonynt yw theatr. Nid rhyw gysylltiad gwan â Llenyddiaeth Saesneg yw Perfformio a Theatr.

Mae pleser wrth galon ein gwaith. Mae ein gwaith yn chwareus a chyfathrebol. Rydym yn hoff o fyrfyfyrio, ac yn mwynhau cymryd risgiau. Mae ein perfformwyr yn cymryd risgiau a gofynnwn i’n cynulleidfaoedd gymryd risgiau hefyd – gyda’n gilydd, rydym yn chwilio am y bod dynol. Rydym yn hoff o gydweithio – mae cydweithio yn rhan o natur perfformio.

Mae gennym ddiddordeb mewn pobl, felly rydym yn ceisio gwneud perfformiadau sy’n cynnwys pobl, sy’n hoff o bobl ac sy’n boblogaidd ymhlith pobl.

Rydym yn hoff o lynu wrth y gorffennol ac edrych tua’r dyfodol.

Mae perfformiadau yn digwydd ym mhob math o lefydd, ac mae gan bob un, hanesion a straeon i’w hadrodd. Mae gennym ddiddordeb yn y llefydd yr ydym yn byw a’r llefydd yr ydym yn gweithio.

Mae dinas yn berfformiad neu mewn perfformiad. Rydym eisiau gwneud i’r ddinas berfformio yn well/arafach/cyflymach/yn fwy sensitif. Mae ein lle yn y ddinas ar gyfer pob math o bethau – ar gyfer dringo, chwerthin, dysgu, gosod delweddau, yfed, meddwl, sgwrsio, dawnsio a chwrdd â chyfeillion newydd.

Weithiau mae’n rhaid i chi fynd ar goll cyn dod o hyd i rywbeth y gallwch ei alw’n gartref.

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education