Mae Volcano wedi’i leoli yn 27-29 Stryd Fawr, Abertawe – hen archfarchnad enfawr ychydig funudau o’r rheilffordd.
Yn ogystal â bod yn ganolfan i’r cwmni cynhyrchu, ein lleoliad yw canolbwynt celfyddydol annibynnol y ddinas, yn cynnal perfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau gan artistiaid a chwmnïau lleol a gwadd.
Mae THEATR BUNKER yn stiwdio berfformio atmosfferig.
Mae ORIEL Y MÔR yn cynnal ystod o arddangosfeydd.
Mae ORIEL YR ORSAF yn far a safle digwyddiadau hygyrch.
Edrychwch ar y pethau a gynhelir gennym, neu llogwch safle ar gyfer eich digwyddiad eich hun.