GALWAD

The Shape of Things to Come 2025

THE SHAPE OF THINGS TO COME 2025

"YR YSTAFELL"

Mae Volcano yn bwriadu unwaith eto comisiynu pum pherfformiwr i wneud perfformiadau byr unigol (tua 30 munud) yn ein lleoliad yn Stryd Fawr Abertawe ym mis Ebrill a mis Mai. Dyma bedwaredd flwyddyn y gyfres gomisiwn llawrydd hon, a ddechreuodd yn 2022 fel Solo Duets for the Future. Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig.

Byddwn yn newid ychydig ar y brîff eleni – yn hytrach na gofyn i chi ddewis o ystod eang o ardaloedd perfformio, byddwn yn cyflwyno ychydig o gyfyngiadau ffurfiol (neu “rhwystrau” – meddyliwch am Lars Von Trier / Jørgen Leth, ond yn llai creulon a heriol).

Mae’n rhaid i’ch perfformiad ddefnyddio’r YSTAFELL.

Bydd YR YSTAFELL yn set ddiaddurn wedi ei hadeiladu ar y llwyfan, gyda phedair wal ac amrywiaeth o ffenestri. Bydd yn mesur tua 4m x 4m. Bydd gan yr ystafell sawl pwynt mynediad. Mae’n bosib addasu’r ystafell i gyd-fynd â’ch syniad perfformiad, gan ddefnyddio adnoddau set gwahanol, paentio, dewisiadau goleuo, ac amrywiaeth o osodiadau cynulleidfa. Byddwch yn cael dewis o ddetholiad o wrthrychau a dodrefn.

Byddwn yn chwilio am bum darn sy’n defnyddio’r set mewn ffyrdd gwahanol gan ddefnyddio eich dychymyg. Mae croeso i chi seilio’r perfformiad ar unrhyw beth o’ch dewis, ond (yr un fath â thymhorau blaenorol) byddwn yn chwilio am waith sy’n agored yn hytrach na’n fewnol, sy’n cyfathrebu â chynulleidfaoedd, ac sy’n edrych tuag at y dyfodol yn hytrach na datglymu’r gorffennol.

Cewch gyflwyno syniad unrhyw bryd o 01 Chwefror 2025 ymlaen. Rydym yn adolygu a llunio rhestr fer wrth i geisiadau gael eu cyflwyno, felly cyflwynwch eich cais cyn gynted ag yr ydych yn barod. Y dyddiad cau anffurfiol yw 08 Mawrth. Fodd bynnag, efallai bydd ceisiadau ar agor tu hwnt i’r dyddiad cau yn ôl ein disgresiwn.

DARLLENWCH HWN CYN GWNEUD CAIS

GWNEWCH GAIS YMA

Isod: Blas ar berfformiadau llynedd. Sioeau gan Elin Phillips, Christopher Elson, Eric Ngalle Charles, Catherine Alexander, Luke Hereford ac Akeim Toussaint Buck.

COMISIYNWYD YN FLAENOROL

2022

BILLY MAXWELL TAYLOR – Rain Pours Like Coffee Drops
JAMES NASH – Automa
RHIANNON MAIR – Ar Lan y Môr
BURIED THUNDER THEATRE CO – Ibeji
REBECCA SMITH WILLIAMS – Chocolate Cake
FRANCESCA FARGION – The Singing Agony Aunt

2023

SEAN WAI-KEUNG – All We Knead
RUTH BERKOFF – The Beauty of Being Herd
SARA HARTEL – Strike Limited
REBECCA BATALA – Have You Seen This Girl
AASIYA SHAH – I Did Not Just Waste My Life
MARIANNE TUCKMAN – The Rising Damp and Other Tails

2024

CATHERINE ALEXANDER – Is That All There Is?
ERIC NGALLE CHARLES – Rituals of the Molikilikili
CHRISTOPHER ELSON – This Museum is a Spaceship
LUKE HEREFORD – Perfect Places
ELIN PHILLIPS – Nythu
AKEIM TOUSSAINT BUCK – Sanc

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education