A woman stands in a green-panelled drawing room. She is wearing a brightly coloured pyjama-suit, and has her hand on her hip. There are drifts of sand on the floor, and furniture and other objects at strange angles.

RECRIWTIO! RHEOLWR CYFRYNGAU DIGIDOL A MARCHNATA

Teitl y Swydd: Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata
Yn atebol i: Cyfarwyddwr Artistig, Cynhyrchydd Gweithredol
Prif Leoliad: Swyddfa Volcano (Abertawe)
Oriau gwaith: Rhan amser 0.6 (22.5 awr yr wythnos)
Cyflog: £24,000 y flwyddyn pro rata
Cytundeb: Parhaol (6 mis o gyfnod prawf)

Cefndir Volcano
Sefydliad sydd wedi ei arwain gan artistiaid sy’n archwilio syniadau a chysylltiadau cymdeithasol drwy berfformio a chyfranogi yw Theatr Volcano. Gan ystyried ei gynulleidfaoedd fel cyfranogwyr gweithredol i wneud synnwyr; a chofleidio’r uniongyrchedd, syndod, a’r fenter sydd wrth wraidd y profiad byw, mae gwaith y cwmni yn ymatebol iawn i gynnwys cymdeithasol a gwleidyddol. Gyda synnwyr parhaol o fusnes anorffenedig, mae Volcano wedi ymrwymo i wneud, datgysylltu, ac ail wneud – gan ddod â synnwyr ffres i’w ddeunydd presennol, gan gadw llygad ar y cyfan y mae eisoes wedi ei brofi.

Mae’r cwmni wedi ei leoli yn Abertawe, lle mae’n creu gwaith perfformio gwreiddiol ac yn rhoi llwyfan i berfformiadau cymunedol a rhai sydd ar daith. Rydym yn ryng-genedlaetholwyr eangfrydig o Gymru gyda gwreiddiau dwfn yn Abertawe, wedi gwirioni â lle rydym yn byw ac yn gweithio a’i berthynas â lleoedd eraill. Mae Volcano yn cynnwys staff cyflogedig a bwrdd o gyfarwyddwyr.

  • Rydym yn cynhyrchu cynyrchiadau theatr gwreiddiol a digwyddiadau yn benodol i safleoedd.
  • Rydym yn teithio gyda chynyrchiadau theatr ledled Cymru, y DU ac ar draws y byd.
  • Rydym yn ymchwilio a datblygu syniadau newydd.
  • Rydym yn comisiynu gwaith gan awduron, artistiaid gweledol a gwneuthurwyr ffilmiau.
  • Rydym yn trefnu digwyddiadau sy’n dod ag artistiaid a chyfranogwyr eraill ynghyd.
  • Rydym yn addysgu ac ysbrydoli drwy weithdai a chyfleoedd preswyl.

DIBEN CYFFREDINOL Y RÔL
Bydd deiliad y swydd yn creu a datblygu ein presenoldeb drwy’r cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau argraffedig, a’n gwefan, gan sicrhau bod gwaith sy’n cael ei greu, ei gomisiynu neu ei gefnogi gan Volcano yn sylw’r cyhoedd cyn gynted ag y bo modd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol hefyd am oruchwylio seilwaith Volcano gan ddefnyddio Google Workspace. Byddant yn gyfrifol am farchnata gwaith Volvano a’r cyfleusterau sydd gan y cwmni i’w cynnig.

PRIF ATEBOLRWYDD

  • Adeiladu perthynas gref â phartneriaid busnes ac elusennau
  • Rheoli a goruchwylio gweithgareddau dyddiol drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Volcano
  • Bod o gymorth i’r Cyfarwyddwr Artistig a’r Cynhyrchydd Gweithredol
  • Creu a chynnal cynnwys y wefan, cyfryngu cymdeithasol a cheisiadau am gyllid
  • Dogfennaeth weledol o ymarfer artistig Volcano
  • Cynnal seilwaith digidol/technegol Volcano

MANYLEB PERSON

Hanfodol

  • Profiad o reoli rhanddeiliaid
  • Gallu defnyddio Google Workspace, Photoshop, Canva, WordPress ac apiau technegol eraill.
  • Sgiliau trafod
  • Gallu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

Dymunol

  • Yr iaith Gymraeg (gallu sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu allu ysgrifennu darnau byr mewn Cymraeg cywir ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol etc)
  • Profiad mewn amgylchedd celfyddydol.

LAWRLWYTHWCH Y PECYN SWYDD AM RAGOR O WYBODAETH. Fersiwn heb luniau yma.

BAROD I WNEUD CAIS? LLENWCH Y FFURFFLEN AR-LEIN.

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education