THE COLONEL, THE MILLER & THE HOUSE FOR SALE
A Political Original™ | Inhospit Festival
THE COLONEL, THE MILLER & THE HOUSE FOR SALE
Darn newydd sbon o theatr a grëwyd ar gyfer gŵyl INHOSPIT yn Formentera. Dyma’r perfformiad cyntaf erioed gan Volacano ar Ynysoedd Baleares.
Caiff y sioe ei pherfformio mewn pedair iaith (Catalaneg, Saesneg, Cymraeg a Sbaeneg). Ceir cyfeiriadau yn y sioe at dirwedd ac economi’r ynysoedd, a’u melinau gwynt sydd bellach yn segur. Y prif faterion y rhoddir sylw iddynt yw pobl ar y cyrion ac ieithoedd y bobl hyn, pris torth, ac erchyllter na ŵyr fawr neb amdano a gyflawnwyd gan y Sbaenwyr yn erbyn sifiliaid ym Moroco. Mae’r ysbrydoliaeth i’r sioe mor amrywiol â Deadly Embrace gan yr hanesydd Sebastian Balfour, No One Writes to the Colonel gan Marquez a thraethawd Jonathan Franzen o 2006, House for Sale.
Mae’r perfformiad hwn yn rhan o gynllun partneriaeth a chyfnewid rhwng Volcano a dau gwmni Catalan – un yn sefydliad tebyg o’r enw C.IN.E Sineu ym Mallorca, a’r llall yn gwmni perfformio ifanc, cyffrous o’r enw Espai_F yn Formentera, lle maent hefyd wedi dechrau rheoli canolfan ddiwylliannol yn ddiweddar. Fel Volcano, mae C.IN.E Sineu yn gweithredu fel cwmni cynhyrchu a chanolfan gymdeithasol, gelfyddydol a chymunedol, gan ddod â bywyd newydd i hen sinema yn y dref y sefydlwyd y cwmni ynddi. Ei nod yw ‘cynnal, ysgogi a hyrwyddo prosesau celfyddydol, gan weithredu fel rhwydwaith gyda chanolfannau neu artistiaid eraill, yn ogystal â chreu cysylltiadau rhwng llunwyr a chynulleidfaoedd.’
Fe gafodd ein Cyfarwyddwr Artistig gwrdd â Chyfarwyddwyr Artistig C.IN.E pan dderbyniodd wahoddiad i siarad am ganolfannau creadigol trefol yn ThinkUP Culture ym Mallorca yn 2016. Daeth y cwmni o Mallorca i ymweld â Volcano yn Abertawe yn ystod haf 2017 er mwyn mynychu ein Gŵyl Codwyr Twrw (prif ddigwyddiad ein rhaglen Syniadau Pobl Lleoedd). Yn dilyn hynny, gwnaethant ein cyflwyno i Espai_F, ac fe wnaethom ninnau eu gwahodd i Abertawe am gyfnod preswyl yn 2017. Datblygodd a chyflwynodd Espai_F ‘Nautae’ yn Volcano – roedd hwn yn berfformiad dwys, trawiadol, doniol ac anarferol a gynigiwyd am ddim i gynulleidfaoedd Abertawe dros ddwy noson.
Cefnogwyd gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.