Ni fu dioddefaint Rwsiaidd erioed gymaint o hwyl â hyn!
Mae merch ifanc wedi byw drwy’i hoes ger llyn. Fel gwylan fôr, mae’n caru’r llyn, ac mae’n hapus ac yn rhydd. Ond daw dyn heibio a dinistrio’i bywyd am nad oedd ganddo ddim byd gwell i’w wneud.
Mae pum enaid colledig yn dringo waliau a siglo ar raffau, yn disgyn i mewn ac allan o gariad, yn dawnsio i drac sain anhygoel, yn chwarae gemau, gwlychu ac ymladd gornestau. Fersiwn anhygoel o drist, afresymol o ddoniol a chwerthinllyd o ddyfeisgar o glasur Rwsiaidd oriog.
Ymddangosodd Seagulls yng Ngŵyl Fringe Caeredin, yn ein lleoliad pop-up annibynnol, The Leith Volcano, sef eglwys wag, a gwerthwyd yr holl docynnau drwy gydol y tair wythnos y buom yno. Roedd yn rhan o Arddangosfa’r Cyngor Prydeinig a’r portffolio Cymru yng Nghaeredin. Cyn hynny roedd wedi ymddangos yn Scenofest yn y World Stage Design 2017 yn Taipei (gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) ac yng nghartref Volcano (hen siop gwerthu bwyd wedi ei rewi) yn Abertawe, De Cymru. Mae ar gael ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol a gellir ei haddasu ar gyfer gwagleoedd anghonfensiynol amrywiol.
Os oes gennych unrhyw gynigion neu ymholiadau, cysylltwch â Paul Davies.