The Dread Zone

The Dread Zone

Rhagolygon 9 & 10 Rhagfyr | Sioeau 13 – 30 Rhagfyr

ARCHEBWCH TOCYNNAU AR EVENTBRITE


Chwedlau Chwithig i’r Teulu Cyfan, Fwy neu Lai*

Nid sioe Nadolig mo hon! Ymunwch â Volcano ar gyfer sioe arswydus sy’n
wrthwyneb llwyr i bantomeim. Rwy’n sicr nad oedd unrhyw un yn disgwyl fwy fyth
o drychinebau yn 2022, ond byddwn yn cyflwyno noson ingol, llawn syndod a
digwyddiadau rhyfedd. Disgwyliwch i ddychryn am eich enaid wrth wrando ar
anturiaethau arswydus gyda straeon dirgel ac annifyrrol o’r ochr arall…

Gan osgoi llymder yn llwyr, bydd ein Theatr Bunker, minimalaidd fel
arfer, yn cael ei addurno ar gyfer yr achlysur gyda ffabrigau amrywiol, trimins
aur, a cherubim plwmp i’ch cadw’n ddiogel rhag yr erchyllterau ar y llwyfan.

Noson llawn syndod, erchylltra, a hwyl arswydus dros ben llestri.
Gwisgwch wisg ffansi i gyd-fynd â’r thema, neu dewch yn eich dillad arferol.

Wedi’i dyfeisio a’i chyfarwyddo gan PAUL DAVIES
Wedi’i chynllunio gan BOURDON BRINDILLE
Cyfarwyddwr Symudiadau: CATHERINE BENNETT
Cast: CHRISTOPHER ELSON; CATHERINE LUFF; FIONN LYNCH; MAIRI PHILLIPS; ATHENA
ZACHARIA

Tîm Cynhyrchu: BOURDON BRINDILLE; HOLLY JAZMINE; AMBER JOINER; JOE LOFTIN; CLARE MISSELBROOK; DAVID MORGANS, INGA NAGEL; KSENIIA TRUFANOVA
Cyfryngau Digidol a Dylunio Graffeg: GEORGIA MCDONALD
Rheolwr Cyllid: SARAH DOW
Rheolwr Blaen y Tŷ: ALAN CARLIN
Codwr Arian: LAURA WEBB
Cynhyrchyd: CLAUDINE CONWAY

*PWYSIG – CANLLAW OEDRAN
Mae croeso i blant dan 14 wylio’r perfformiad hwn gyda chwmni oedolyn, ac yn ôl disgresiwn eu rhieni/gwarcheidwaid. Rydym yn tybio y bydd llawer o blant yn mwynhau’r erchylltra a’r arswyd, yn ddiogel yng nghwmni eu hanwyliaid. Fodd bynnag, efallai bydd y cynnwys yn dychryn neu’n gofidio plant iau (yn enwedig dan 5 mlwydd oed) neu unigolion sy’n fwy sensitif. Wedi’i gynnwys yn y sioe mae gwaed ffug a thrais llwyfan, synau uchel a/neu ddirybudd, symudiadau cyflym, neu syrpreisys eraill. Ni fydd yn cynnwys rhyw ddiamwys, rhegi eithafol.

ARCHEBWCH AR EVENTBRITE.

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education