Rain Pours Like Coffee Drops

A gyflwynir gan The Motion Pack

Mae RAIN POURS LIKE COFFEE DROPS yn cynnig eiliad o lonyddwch yng nghanol prysurdeb ein bywydau gwaith.

Gydag 1 o bob 5 o bobl yn teimlo na allant reoli straen yn y gweithle, mae’r darn hwn ar gyfer y rhai sydd am ail-werthuso eu perthynas â’r gwaith neu’r rhai sy’n dymuno cymryd peth amser i ymlacio a bod yn llonydd. Trwy gyfarfyddiad agos atoch lle gallwch sipian coffi, synfyfyrio neu wylio gyda llygaid llydan, mae The Motion Pack yn eich gwahodd i fyd sydd wedi’i stopio dros dro lle mae coffi’n bragu’n araf ac mae adeiladau concrit yn codi o’r ddaear. Mae’r Glaw’n defnyddio’r Gymraeg i fyfyrio ar drymder cynyddol y Gweithiwr sy’n mynd o gwmpas ei ddiwrnod arferol yn undonog mewn profiad o realaeth a myfyrdod hudolus.

Dydd Gwener 30 Medi 16:30 –  Perfformiad dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Dydd Gwener 30 Medi 19:00 – Perfformaid yn Saesneg
Dydd Sadwrn 1 Hydref 15:30 – Perfformiad hamddenol yn Saesneg
Dydd Sadwrn 1 Hydref 19:00 – Perfformiad dwyieithog (Cymraeg a Saesneg).

TOCYNNAU

 
 
 
 
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education