Ymunwch â’n Grŵp Dynion ddydd Mercher, 4 Rhagfyr, i gymryd rhan mewn sesiwn arbennig yn sôn am ddiogelwch tân yn y cartref a diogelwch ar y ffyrdd dros y gaeaf a gyflwynir gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cewch awgrymiadau hollbwysig ynglŷn â diogelwch tân dros y Nadolig yn ogystal â chyngor ynghylch diogelwch ar y ffyrdd er mwyn cadw eich teulu’n ddiogel yn ystod tymor y gwyliau.
Dewch i fwynhau awyrgylch cyfeillgar a phaned o de am ddim a chymryd rhan yng ngweithgareddau rheolaidd ein Grŵp Dynion. Peidiwch â cholli’r cyfle i gael gwybodaeth bwysig ac i gysylltu â phobl eraill y gaeaf hwn.