UNIG / ONLY

UNIG Cymraeg: unig Saesneg : alone; lonely; mere; only; sole; solitary Mae teimlo’n unig a bod yn unig yn dau peth eithaf gwahanol. Dyma brosiect am y ddau. Byddwn yn cloi y rhan gyntaf o’r Ymchwil a Datblygu trwy rannu perfformiad mewn datblygiadau yn Theatr Folcano (Abertawe), Citrus Arts (Pontypridd) a Theatr Byd Bychan (Aberteifi). Byddem wrth ein bodd i weld chi yno! Mae ein hamser ymchwil wedi cael ei dreulio yn hel clecs ‘gossiping’, (term a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gyfeirio at gyfeillgarwch agos rhwng merched heb y cynodiadau negyddol) gyda mxynwod* o ardaloedd gwledig a threfol Cymru. Rydym wedi casglu straeon am fenywod  o straeon gwerin Cymru, ac wedi dod i ‘nabod rhai ffigyrau hanesyddol a chyhuddwyd o ddewiniaeth. Rydym wedi bod yn defnyddio’r ffynonellau yma, yn ogystal â bywyd Meg, dynes sengl 30 oed sy’n byw yn Sir Benfro a’i alter-ego Spike, fowl weddol slei a elwir hefyd  ‘The Bassist Without a Band’ i ddechrau datblygu perfformiad comedi sy’n cyfuno theatr- ddawns, hŵp awyrol a thafluniad fideo. Mae pob perfformiad yn rhad ac am ddim ond mae croeso i chi gyfrannu os gallwch. *cynnwys pobl drawsrywiol ac anneuaidd . Megan Haines: Perfformiwr, cyd-arweinydd artistig Marianne Tuckman: Cyfarwyddwr, arweinydd cyd-artistig Lily Tiger T-Wells: Gwneuthurwr ffilmiau: arweinydd cyd-artistig Ben Duke, Lost Dog: Mentor artistig Cefnogaeth dylunio sain: Marcelo Daza Schmittner

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education