Y PROSIECT JYNGL TREFOL

Dewch draw i’n gweithdy stensilio RHAD AC AM DDIM i ddysgu sut i wneud stensil celfyddyd stryd. Darperir yr holl ddeunyddiau.

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o’r Prosiect Jyngl Trefol a chaiff ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Oakdale. Estynnir croeso i bawb.

Gelir mynychu’n rhad ac am ddim. Darperir deunyddiau a lluniaeth.

NEILLTUWCH LE NAWR!

Bob Ddydd Gwener, 1pm-3pm

FE’I CEFNOGIR GAN YMDDIRIEDOLAETH OAKDALE

Ynglŷn â Phrosiect ‘Jyngl Trefol’ Volcano

Croeso i Brosiect ‘Jyngl Trefol’ Volcano!

Pwy ydym ni:

Lleolir Theatr Volcano ar Stryd Fawr Abertawe.

Ynglŷn â’r Prosiect:

Mae ‘Jyngl Trefol’ yn archwilio’r berthynas rhwng natur a bywyd trefol. Mewn byd mwyfwy trefol, ceisiwn ddathlu gwytnwch natur yng nghanol y dirwedd goncrit. Trwy gyfrwng collage, gwahoddir artistiaid i greu Creaduriaid Collage sy’n ymgorffori hanfod y thema hon.

Pam Creaduriaid Collage?

Mae collage yn cynnig cynfas unigryw i artistiaid ar gyfer cyfuno elfennau gwahanol a’u troi’n gyfansoddiadau cydlynus sy’n ysgogi meddwl. Gyda ‘Jyngl Trefol’, rydym yn herio artistiaid i feddwl am yr amgylchedd trefol o’r newydd trwy lens natur, gan blethu gweadau, lliwiau a delweddau i greu Creaduriaid Collage diddorol sy’n codi uwchlaw ffiniau traddodiadol.

Sut i gymryd rhan:

Pa un a ydych yn artist sydd wedi ennill ei blwyf neu’n ddarpar artist brwd, mae croeso i bawb gymryd rhan ym Mhrosiect ‘Jyngl Trefol’ Volcano. Y cwbl sydd raid ichi ei wneud yw cyflwyno eich Creaduriaid Collage, pa un a fyddant yn rhai digidol neu’n rhai a wnaed â llaw.

Manylion am gyflwyno:

I gyflwyno eich Creadur Collage, dilynwch y cyfarwyddiadau. Pa un a ddewiswch ddanfon eich gwaith â llaw neu ei anfon yn ddigidol, rydym ar dân eisiau gweld eich dehongliad chi o’r thema ‘Jyngl Trefol’.

Cadw mewn cysylltiad:

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf am y prosiect a gwybodaeth am yr artistiaid. Ymunwch â ni trwy ddefnyddio #JynglTrefolVolcano

Ymunwch â ni yn y Jyngl Trefol:

Ewch yn wyllt yn y dirwedd drefol a rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg. Gyda’n gilydd, dewch inni droi’r pethau arferol yn bethau eithriadol trwy gyfrwng Prosiect ‘Jyngl Trefol’ Volcano. Croeso i fyd lle rhoddir rhwydd hynt i greadigrwydd!

Gweithdai blaenorol

Fel rhan o’n prosiect Jyngl Trefol, bydd Mickey James – sef hyfforddwr ffitrwydd, swyddog ymchwil a sylfaenydd Girls to the Front – yn cymryd yr awenau yn y Grŵp Menywod yr wythnos hon. Cewch ddysgu beth yw ‘Zine’ a darganfod ffyrdd newydd o rannu, creu a’ch mynegi eich hun trwy gyfrwng collage, print, brasluniau a mwy. Unrhyw oedran, ni fyddwch angen sgiliau na phrofiad.

Gellir mynychu’n rhad ac am ddim. Darperir deunyddiau a lluniaeth.

Cewch ragor o wybodaeth am Mickey a’r hyn a wna ar Instagram @grrrlsttf

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education