#421SHOTS

Mae #421SHOTS yn arddangosfa sy’n cyfleu Dinas a Sir Aberatwe yn ystod y Cyfnod Clo

#421SHOTS - Cystadleuaeth lluniau ac arddangosfa

Roedd 421 diwrnod i dynnu lluniau yn ystod y Cyfnod Clo yn Abertawe rhwng Mawrth 23 2020 a Mai 17 2021.
Mae #421SHOTS yn arddangosfa sy’n cyfleu Dinas a Sir Aberatwe yn ystod y cyfnod hwn.

GALW AR GYSTADLEUAETH! Mae #421SHOTS yn gystadleuaeth lluniau a fydd yn gorffen gydag arddangosfa (o 24 Mai yn Volcano). Hoffem gael eich lluniau sydd wedi’u tynnu yn Ninas a Sir Abertawe yn y cyfnod rhwng 23 Mawrth 2020 a 17 Mai 2021.

Bydd gwobr o £100 ar gyfer enillydd pob grŵp oedran (un ar gyfer ffotograffwyr iau hyd at 16 oed, ac un ar gyfer y rheiny sydd dros 16).

Mae’r gystadleuaeth ar gyfer ffotograffwyr amatur ac yn gyffredinol y rhai sydd wedi tynnu llun sy’n cynrychioli’r cyfnod clo yn Abertawe. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn i’w gweld yn y telerau ac amodau.  Dim ond cynigion digidol sy’n cael eu derbyn, ac mae’n rhaid eu hanfon fel ffeiliau JPG/jpeg ERBYN HANNER NOS 17 MAI drwy e-bost at vic@volcanotheatre.co.uk neu drwy’r ap ar-lein am ddim i rannu ffeiliau mwy o faint, WeTransfer  https://wetransfer.com/  Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich enw ac, os oes modd, teitl/ychydig o eiriau am y llun(iau). Dylech hefyd roi gwybod i ni a yw’r lluniau wedi’u tynnu gan rywun 16 oed neu iau, ac felly yn gymwys ar gyfer y Gystadleuaeth Iau.

Nid oes rhaid iddo fod yn ‘llun perffaith’ traddodiadol. Yr hyn mae’n ei ddangos sy’n bwysig. Gall y pwnc fod yn unrhyw beth o’ch hoff ddarn o ffordd y gwnaethoch ymarfer sgiliau pêl-droed arno, i ran o ardd yr ydych wedi gofalu amdani i balmentydd yn llawn o orchuddion wyneb i safle tipio anghyfreithlon newydd. Unrhyw beth…*

Gan y byddwn yn argraffu cynigion dethol, dylai lluniau fod yn 3MB a throsodd a dim llai na 2MB.

Os yw’n bosibl, anfonwch luniau gyda’r cymarebau ffurf:

2:3     
4:5
1:1

Gall unrhyw luniau nad ydynt yn y gymhareb ffurf hon gael eu tocio gennym cyn eu hargraffu.

Drwy ymgeisio yn y gystadleuaeth, rydych yn cytuno i’r Telerau ac Amodau hyn. 

Rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa ffotograffau hon yn cael ei dilyn gan un arall a fydd yn rhoi cyfle i bobl dynnu lluniau o’u profiad cyfnod clo yn Abertawe mewn ffyrdd eraill, yn ysgrifenedig neu ar lafar efallai.

*o fewn y telerau ac amodau

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education