Wythnos yn ddiweddarach

Meddyliau pellach am yr Adolygiad Buddsoddi

Wythnos yn ddiweddarach

P’un a ydych yn cytuno bod Abertawe yn ‘Ugly Lovely City’ neu’n ‘Pretty Shitty City’, neu’n rhywbeth rhwng y ddau, mae’n gwestiwn sy’n bywiogi ac yn corddi llawer o’r bobl sy’n byw yma. Yn amlwg, mae’n ddinas o gyferbyniadau: tlodi a digonedd, bryniau a thraethau; datblygiad dinesig a dirywiad canol y ddinas. Mae’n lle bach od, wedi’i or-nodweddu, mae’n debyg, gan y campysau prifysgol ar ei gyrion a pharciau manwerthu sydd wedi’u lleoli’n gyfagos iddynt. Mae penseiri’n brasgamu ar hyd y strydoedd, yn cynllunio mwy o adeiladau ffrâm wydr digon annymunol nad oes neb eu heisiau mewn gwirionedd. Ond peidiwch â phoeni – mae’r arian yn ymgasglu, ac ymhen 40 mlynedd pan fydd yr adeiladau’n cael eu dymchwel, bydd yr un gweithwyr proffesiynol yn mwynhau eu pensiynau rhywle ymhell oddi yma.

 

Ymhell o ddyheadau neilltuol y sector preifat (yn aml wedi’u hariannu gan y pwrs cyhoeddus), mae’n hysbys iawn fod strwythurau dinesig wedi dioddef eu math eu hunain o arteithiau. Mae gwanychu (o ran trafod a datblygu) ym mhob man. Er hynny, mae datblygiad anwastad yn cymhlethu’r darlun. Daw’r Fargen Ddinesig o ddwylo mawr y Wladwriaeth, ac erbyn hyn mae gennym arena berfformio newydd sbon gyda 3000 o seddi. Ymhellach i fyny’r ffordd yn Hafod, mae’r hen safle gwaith copr yn cael ei drawsnewid yn ddistyllfa wisgi (ymysg pethau eraill).

 

Mae’r Wladwriaeth (â’i hagwedd hyd braich) hefyd wedi bod ar waith rhwng yr Hafod a’r Arena. Mae wedi dewis parhau â’i chynnig o gyllid refeniw i Volcano, sydd ar hyn o bryd yn defnyddio hen uned fanwerthu fawr ar y Stryd Fawr. Nid yw’n adeilad urddasol – mae’n oer ac mae’n gollwg dŵr – ond mae’n fawr ac yn hyblyg, ac yn gartref i lawer o bobl a llawer o weithgareddau amser real. Newid ac ailddyfeisio yw’r egwyddorion allweddol sydd ar waith yn yr adeilad a’r sefydliad. Dros y ffordd o Volcano mae Oriel Elysium, yn ymuno â rhengoedd y cyllid amlflwyddyn am y tro cyntaf ac yn gwneud gwaith gwych ac amrywiol. Mae’r ddau sefydliad mewn hen adeiladau, sydd wedi torri braidd, ond rhywsut rydym wedi llwyddo i drawsnewid, cydweithredu a chyfathrebu. Ar lefel y stryd mae’r Ddinas yn estyn allan at ei phobl, yn gwrando, yn pryfocio ac yn caru. Mae’n deimlad da fod Cyngor y Celfyddydau wedi cydnabod hyn yn ei Adolygiad Buddsoddi diweddar, yn Abertawe o leiaf.

 

Paul Davies, Mis Hydref 2023

 

Llun: Paul Davies yn The Rising Damp and Other Tails by Marianne Tuckman, 2023. Part of The Shape of Things to Come.

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education